Mae tystiolaeth yn dangos bod y ffordd rydym ni’n meddwl a beth rydym yn ei wneud o ddydd i ddydd yn cael effaith ddramatig ar ein llesiant. Fel y’i nodwyd yn ein neges 5 Cam Syml tuag at Lesiant, yn aml mae gan y rheini sy’n rhagweithiol ac yn dangos mwy o ddiddordeb mewn helpu pobl eraill fwy o ymdeimlad o bwrpas ac maent yn fwy hapus ynddynt eu hunain. I’w dweud yn syml, mae rhoi yn grymuso pawb – y sawl sy’n derbyn a’r sawl sy’n rhoi.
Mae sawl ffordd y gallwch chi roi yn ystod eich amser yn y Drindod Dewi Sant. Dyma nifer o syniadau:
Rhoi Gwaed
Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dibynnu’n gyfan gwbl ar wirfoddolwyr yn rhoi gwaed i gynnal cyflenwadau gwaed yn ysbytai Cymru.
Mae’n ddiogel, yn cymryd 5-10 munud yn unig i roi, ac yn gwneud gwahaniaeth gweladwy go iawn. Mae potensial i bob rhodd achub hyd at dri bywyd. Cofrestrwch yma.
Lloegr
Neu, os ydych wedi eich lleoli yn Lloegr gallwch weld a ydych yn gymwys i roi gwaed, cofrestru ar-lein a dod o hyd i safle rhoi gwaed sy’n agos i chi wrth ymweld â gwefan Rhoi Gwaed GIG
Os na allwch roi gwaed, beth am ystyried cofrestru i roi bôn-gelloedd? Gallwch gofrestru trwy Wasanaeth Gwaed Cymru neu drwy ofyn am becyn swab gan Anthony Nolan.
Creu ‘Pecyn Urddas’
Gan weithio gyda Matthew’s House, elusen sy’n cefnogi pobl ddigartref yn Abertawe, gallwch roi amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys tamponau, chwistrellau i’r ceseiliau a dillad isaf, a fydd yn helpu i roi eu hurddas yn ôl i fenywod digartref sy’n agored i niwed.
Beth am ddod at eich gilydd gyda grŵp o ffrindiau a chyfrannu tuag at becyn urddas? Gallai gweithred fel hyn wneud gwahaniaeth aruthrol. Dewch o hyd i fwy o fanylion yma.
Enillwch brofiad gwerthfawr gan gofrestru i wirfoddoli gyda nhw mewn sawl prosiect. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng nghanol y ddinas, cwrdd â lot o bobl ddiddorol, a bydd y profiad yn edrych yn wych ar eich CV.
Rhoi Hen Ddillad a Chelfi
Mae’n hawdd casglu llawer o ‘stwff’ pryd rydych yn fyfyriwr. Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, beth am ystyried rhoi’ch dillad neu’ch celfi ail law i elusen?
Gadewch eich rhoddion mewn siop elusen neu fanc rhoddion, neu trefnwch gasgliad gan Sefydliad Prydeinig y Galon – British Heart Foundation
Gallwch hefyd gasglu bag rhoddi dillad oddi wrth y tîm llety sydd yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe. Ddim yn aros gyda ni? Cysylltwch â accommodation@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Cofiwch fod angen i’r eitemau rydych yn eu rhoi fod o ansawdd da, defnyddiol.
Peiriannau Chwilio er Lles
Wyddoch chi y gallai gwneud newidiadau bach megis newid eich peiriant chwilio gael effaith gadarnhaol?
Gallai dewis peiriant chwilio gwahanol ganiatáu i chi gefnogi achosion da drwy wneud rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud bob dydd – pori’r rhyngrwyd.
Bydd rhai peiriannau chwilio’n rhoi arian o’u hysbysebion neu gan eu noddwyr i elusennau, neu gallent addo plannu coeden bob tro y byddwch yn bwrw ‘search’.
Bydd yn costio dim i chi.
Dyma rai rydym ni’n eu hoffi:
- Tab for a Cause – Bydd yn rhoi arian i elusen bob tro byddwch yn agor tab newydd – yn berffaith pan fyddwch yn gwneud ymchwil i’r traethawd hir
- ‘Ecosia’ – Mae’n defnyddio refeniw o’ch chwilio i blannu coed lle mae’u hangen fwyaf
- ‘Sleedo’ – Mae’n rhoi reis gyda phob chwiliad
Gwnewch un ohonynt yn dudalen gartref.
Eich gweddillion…
Ydych chi wedi amcangyfrif eich cyflenwad bwyd yn anghywir erioed a chael llond cwpwrdd yn weddill ar ddiwedd blwyddyn academaidd?
Yn lle ei adael yn eich neuadd breswyl neu’i daflu, beth am ei roi i fanc bwyd?
Mae Tîm Llety YDDS yn casglu rhoddion ar gyfer banciau bwyd lleol ac yn annog myfyrwyr i roi eitemau bwyd sydd heb eu hagor ac nad ydynt yn ddarfodus, drwy neuaddau preswyl y brifysgol.
Caiff cewyll gleision eu gadael yn y neuaddau preswyl er mwyn casglu, ond os nad ydych yn aros gyda ni, gallwch chwarae rhan o hyd drwy adael eich eitemau yn y swyddfa adeiladau sydd ar y campws, neu yn eich banc bwyd lleol.
Yn ogystal â bod yn fwy cynaliadwy, mae’n helpu i gadw teuluoedd lleol rhag bod eisiau bwyd. Mae pawb ar eu hennill.
https://swansea.foodbank.org.uk/
https://carmarthen.foodbank.org.uk/
Gallwch hefyd ymuno a chymuned fel OLIO, ap sydd yn cysylltu cymdogion a siopau lleol i rannu bwyd dros ben ac atal taflu gweddillion i ffwrdd. Mae hwn yn ffordd wych o ail-ddefnyddio’ch gweddillion, cysylltu â phobl yn eich cymuned, a gwneud effaith bositif ar yr amgylchedd.
Os ydych chi’n ymwneud â menter sy’n gwneud lles, rhowch wybod i ni @UWTSDStudents a byddwn yn rhannu’r syniad ar y dudalen yma.