• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
8 ffordd i fynd yn wyrdd y flwyddyn hon

8 ffordd i fynd yn wyrdd y flwyddyn hon

Tweet

Mae’r flwyddyn newydd yn cynnig y cyfle perffaith i droi dail newydd. I lawer, bydd rhywbeth yn dod i feddwl ar unwaith, ond os nad ydych chi wedi ystyried Datrysiad Blwyddyn Newydd eto, ac os ydych chi lan am her, beth am addo i fynd yn wyrdd?

Yn PCYDDS, teimlwn yn gryf am wneud ein campysau a’n cymunedau mor gynaliadwy ag y gallwn. Helpwch ni fynd yno trwy wneud adduned gynaliadwy eleni. P’un a yw’n newid bach neu rywbeth dramatig, gallai wneud gwahaniaeth mawr i lawr y ffordd. Ymunwch â ni i herio newid hinsawdd.

Os ydych eisiau syniadau, edrychwch ar y rhai hyn…

1) Bwyta llai o gig

Yn 2016, amcangyfrifwyd bod cynhyrchu cig y byd yn 317m o dunelli metrig. Disgwylir i’r ffigwr hwn gynyddu o hyd, a bydd yn cael effeithiau adfydus, gan gynnwys effaith ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnydd gormodol o ddŵr, llygredd dŵr, defnydd tir difrifol a datgoedwigo, yn ychwanegol at effeithio’n negyddol ar ein hiechyd a’n lles cyffredinol.

Gall hyd yn oed ceisio mynd heb gig am un diwrnod bob wythnos wneud gwahaniaeth; gan helpu i arafu newid hinsawdd, gwella ein hiechyd, a chadw adnoddau naturiol hanfodol. Yn well o hyd, bydd lleihau faint o gig rydych chi’n ei fwyta hefyd yn arbed swm syndod o arian i chi.

Os ydych chi am yr her, dewch o hyd i ryseitiau llysieuol blasus i’ch helpu chi ar hyd y ffordd.

2) Cymryd rhan mewn Wythnos Ewch yn Wyrdd

Mae cymryd rhan yn Wythnos Ewch yn Wyrdd yn ffordd ardderchog o wneud rhywbeth da i’r amgylchedd tra’n manteisio i’r eithaf ar gymuned y Brifysgol.

Mae gweithgareddau’r flwyddyn flaenorol wedi cynnwys dangosiadau ffilm, darlithoedd a ddarperir gan westeion arbennig, a glanhau’r traeth. Mae pob un wedi anelu at ddatblygu ymwybyddiaeth ehangach o faterion amgylcheddol ar draws campysau PCYDDS a chanfod ffyrdd y gallwn ni wneud ein cymunedau’n wyrddach.

Cadwch lygad am bob math o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous trwy ddilyn @UWTSDGoGreen ar Twitter a thrwy eu hoffi ar Facebook.

3) Gofalu am randiroedd eich campws

Oeddech chi’n gwybod bod gan gampysau Caerfyrddin a Llambed rhandiroedd y gallwch chi eu helpu i ofalu amdanynt?

Rhowch cymorth i wneud eich campws yn wyrddach, datblygu sgil newydd a dod i adnabod pobl eraill sy’n debyg i chi. Cysylltwch a livegreener@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan.

4) Sefydlu menter werdd ar eich campws

Mae llawer o bobl o gwmpas i’ch cefnogi ar y campws os hoffech chi sefydlu menter cynaliadwyedd ar eich campws. O werthu planhigion i codi sbwriel, mae myfyrwyr wedi gweithio tuag at wneud gwahaniaeth go iawn dros y blynyddoedd. Nid oes rheswm pam na allwch chi ysbrydoli newid hefyd.

Yn well byth, dewch yn Intern Cynaliadwyedd INSPIRE a chael eich talu i redeg prosiect cynaliadwyedd. Am ragor o wybodaeth am sut i ymgeisio, ewch i’r wefan.

5) Prynwch llai

Pa un ai ddillad neu fel arall, mae bob amser yn werth ystyried yr effaith amgylcheddol cyn mynd ati i brynu mwy ym mis Ionawr. Mae’r diwydiant ffasiwn cyflym yn gwael iawn yn torri corneli amgylcheddol; yn cyfrannu i problemau fel llygredd dŵr, y defnydd o cemegau peryglus, heb sôn am y gwastraff enfawr mae’n cynhyrchu.

Felly, yn lle gwneud pryniadau byrbwyll, beth am geisio newid eich ymddygiad fel defnyddiwr eleni?

Ceisiwch brynu llai ac yn hytrach ffocysu ar ansawdd. Fe welwch fod eich pryniannau’n para’n hirach, ac efallai y byddwch yn gwerthfawrogi yn fwy hyd yn oed.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, mae’r ymgyrch Love Your Clothes yn cynnig syniad gwych i helpu pobl i newid y ffordd y mae defnyddwyr yn prynu, defnyddio a gwaredu eu dillad.

6) Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio

Mae defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus, beicio neu gerdded i’ch campws, ac oddi yno, yn ffordd syml o leihau eich ôl troed carbon a byw bywyd myfyrwyr mwy cynaliadwy. Gall ymgorffori gweithgareddau yn eich trefn ddyddiol gael effaith ddramatig ar eich lles hefyd, a gall helpu i lleihau symptomau pryder a straen.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau Teithio Gwyrdd.

7) Addewid i ddefnyddio llai o bapur

Gwyddom i gyd yr effeithiau negyddol o ddefnyddio gormod o bapur erbyn hyn. Beth am wneud eich Datrysiad Blwyddyn Newydd gwyrdd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o torri nôl tra’n astudio?

Am gyngor, ewch i’n post Astudio’n Gynaliadwy, neu ddod o hyd i rai o Apiau Defnyddiol i’ch helpu i astudio.

8) Dywedwch ‘na’ i fagiau plastig

Yn ôl Surfers Against Sewage, bob dydd mae tua 8 miliwn o ddarnau o lygredd plastig yn mynd i mewn i’n cefnforoedd. Gellir dod o hyd i lygredd plastig ar bob traeth yn y byd erbyn hyn. Gall torri yn ôl ar eich defnydd plastig wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae’n ymrwymiad gwych i ddechrau’r flwyddyn newydd. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn, ond un o’r rhai mwyaf syml yw defnyddio bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio yn lle prynu rhai plastig pan fyddwch chi’n gwneud eich siop wythnosol.

Unwaith eto, nid yn unig y mae’r weithred hon yn fwy cynaliadwy, ond bydd hefyd yn arbed rhywfaint o arian i chi. Os ydych chi’n gadael y campws, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio gyda chi. Bydd mynd i’r patrwm hwn yn iach, ac ni fydd yn eich rhwystro pan fyddwch chi ar desg dalu archfarchnad.

Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei wneud gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd i @UWTSDStudents ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 

cysylltu Ffordd o Fyw advice graduates Study Smart Instagram wellbeing lles datblygiad Sylw Work Opportunities Top Tips Make Change Datblygiad Sgiliau Lifestyle Awgrymiadau Gorau cyfleoedd Gwneud Newid Eich Prifysgol opportunities Wellbeing jobs development Uncategorized career networking volunteering meddylfryd work experience Advice Skills & Employability resources cyngor skills Cyngor mindset Lles Featured Instagram Inspiration Skills Development Sgiliau a Cyflogadwyedd cyngor Your Uni connect

Related Posts

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Lles /

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Meddylfryd Arholiadau

Gwneud Newid /

Meddylfryd Arholiadau

Astudio’n Gynaliadwy

Bywoliaeth Gwyrdd /

Astudio’n Gynaliadwy

‹ 8 Ways to Go Green this Year › #OffTheShelf
Instagram Make Change jobs cysylltu Featured Sgiliau a Cyflogadwyedd Advice opportunities graduates Gwneud Newid Datblygiad Sgiliau Work Opportunities mindset Instagram work experience networking cyfleoedd volunteering Uncategorized Cyngor cyngor advice connect Awgrymiadau Gorau Top Tips Inspiration development meddylfryd Your Uni Ffordd o Fyw cyngor Skills & Employability Study Smart Wellbeing Skills Development Eich Prifysgol resources Sylw skills career Lifestyle lles Lles wellbeing datblygiad

Back to Top

Latest Tweets

  • Nod Wythnos Imiwneiddio'r Byd a ddathlir ym mis Ebrill yw codi sylw ar y cyd-weithrediad sydd ei angen a hyrwyddo'r… twitter.com/i/web/status/1…
    8 hours ago
  • World Immunisation Week, celebrated in April, aims to highlight the collective action needed to promote the use of… twitter.com/i/web/status/1…
    8 hours ago

Trydar Diweddaraf

  • Nod Wythnos Imiwneiddio'r Byd a ddathlir ym mis Ebrill yw codi sylw ar y cyd-weithrediad sydd ei angen a hyrwyddo'r… twitter.com/i/web/status/1…
    8 hours ago
  • World Immunisation Week, celebrated in April, aims to highlight the collective action needed to promote the use of… twitter.com/i/web/status/1…
    8 hours ago

Recent Posts

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Blogiadau Diweddar

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant