Mae llesiant yn derm sy’n codi’i ben yn aml, ond beth yn union mae’n ei olygu?
Yn fyr, mae llesiant yn ymwneud â bod yn iach ac yn hapus â’ch bywyd yn gyffredinol, bod ag ymdeimlad o bwrpas a theimlo bod gennych reolaeth dros eich dewisiadau a’ch penderfyniadau.
Heb gyrraedd y pwynt hwnnw eto? Peidiwch â phoeni, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich llesiant cyffredinol, gan gynnwys dod yn fwy gwydn, cyflwyno eiliad o lonyddwch i’ch bywyd pob dydd, neu siarad â rhywun am y materion sy’n effeithio arnoch. Yn PCYDDS rydym yma i’ch helpu.
- Mae cymorth ar gael os ydych chi angen siarad â rhywun, gallech chi fanteisio ar ein gwasanaeth cwnsela am ddim neu gofrestru ar gyfer y Togetherall am gymorth iechyd meddwl 24/7 yn cynnwys cyrsiau hunan-gyfeiriedig gwych
- Ystyriwch Ymwybyddiaeth Ofalgar. Arfer yw Ymwybyddiaeth Ofalgar y profwyd ei fod yn lleihau straen a gorbryder trwy gymryd ychydig funudau bob dydd i adfyfyrio ac ymlacio gan ddefnyddio ymarferion myfyrio. Gallwch ddysgu mwy am Ymwybyddiaeth Ofalgar yma
- A pheidiwch â thanbrisio pwysigrwydd cymryd amser i ymlacio, dadweindio a gwneud dim byd. Dyma rai apiau a luniwyd i helpu, y gallwch roi cynnig arnynt:
Gall myfyrio eich helpu i reoli eich emosiynau ac ymdopi’n well â straen a gorbryder, ond mae angen ymarfer. Gyda dros 2000 o fyfyrdodau dan arweiniad mae Insight Timer yn cynnig rhywbeth i bawb pa un a ydych yn ddechreuwr neu’n arbenigwr ar fyfyrio.
Lluniwyd Pzizz i helpu pobl i oresgyn diffyg cwsg a’u helpu i ddysgu sut i gymryd napyn. Gall diffyg cwrs gael effaith enfawr ar eich gallu i ganolbwyntio a hyd yn oed effeithio ar eich iechyd meddwl. Os ydych chi erioed wedi eisiau cysgu’n well, yna Pzizz gyda dros 10 biliwn o gyfuniadau cysgu yw’r Ap i chi. Mae hyd yn oed wedi ei argymell gan JK Rowling.
Gall caniatáu i’ch meddwl ymlacio gael effaith gadarnhaol ar lesiant, iechyd meddwl a chreadigrwydd. Gyda’i ddewis o storïau, synau ymlaciol ac ymarferion myfyrio, mae gan Calm y cyfan, a bydd yn eich cludo i le pellennig. Gallwch gael yr Ap sylfaenol am ddim sydd â digon o ymarferion a storïau i ddewis ohonynt.
Os ydych chi’n defnyddio unrhyw apiau sy’n helpu eich llesiant rhowch wybod i ni @UWTSDStudents