Apiau defnyddiol i’w lawrlwytho cyn cychwyn
O adolygu ar gyfer arholiadau i lesiant; eich bywyd cymdeithasol i recordio darlithoedd, mae ap at bob agwedd ar eich amser yn y brifysgol… Ac mae’u buddion yn ddi-ben-draw.
Gallwch wella’ch effeithlonrwydd, eich trefnu a chynhyrchiant, a chynnal meddylfryd iach yn ystod eich cyfnod yn y Drindod Dewi Sant drwy lawrlwytho un neu ddau o’r apiau hyn. Maen nhw oll wedi’u hargymell gan fyfyrwyr a staff cyfredol.
Dod i ddeall cyfeirnodi
Mae dod i ddeall cyfeirnodi’n addasiad mawr i bawb sy’n cychwyn yn y brifysgol, ond does dim rhaid iddo godi ofn.
Yn ogystal â’r cymorth gallwch chi ei gael gan staff llyfrgell arbenigol, gwasanaethau myfyrwyr a staff academaidd yn eich cyfadran, gallwch lawrlwytho apiau i’ch helpu gyda’ch cyfeirnodi. Mae Zotero yn blatfform rhad ac am ddim sy’n gallu’ch helpu i gasglu, trefnu, cyfeirnodi a rhannu’ch ymchwil. Ar unwaith bydd yn creu cyfeiriadau a llyfryddiaethau i chi, a gyda chymorth ar gyfer mwy na 8,000 o arddulliau cyfeirnodi, mae’n annhebygol y cewch banig dros fformat eich gwaith yn ystod eich misoedd cyntaf. Whiw.
Ar gyfer trefnu
Rydym ni i gyd yn lwcus i astudio ar adeg pryd mae cynifer o adnoddau ar gael i’n helpu ni i gadw’n drefnus. Fodd bynnag, bydd chwilio yn eich siop apiau’n dod â chynifer o ddewisiadau, gall fod yn anodd gwybod beth i’w lawrlwytho.
Mae Ruth Melton, myfyrwraig ar ail flwyddyn y cwrs Rheoli Digwyddiadau, yn argymell Scribzee, gan ddweud “Mae’n storio’ch nodiadau i gyd ar eich ffôn a’r Cwmwl, felly cewch fynediad iddyn nhw hyd yn oed os anghofiwch eich llyfrau a’ch ffôn”. Mae Scribzee yn ap rhad ac am ddim a fydd yn helpu i’ch cadw’n drefnus drwy sganio a chadw nodiadau’ch darlithoedd o’ch pad nodiadau a’ch dyddiaduron. Mae’r ap yn gadael i chi gyfoethogi’ch nodiadau drwy eu darlunio â lluniau, ychwanegu tudalennau eraill a chreu rhybuddion. Mae’r platfform yn hawdd ei ddefnyddio ac yn annog cydweithio â’ch cymheiriaid. Meddai Ruth, “Mae’r ap wedi achub fy mywyd i gynifer o weithiau… Yn enwedig wrth anfon nodiadau at fyfyriwr arall os ydy wedi colli darlith”.
I gael mwy o gyngor am ddefnyddio apiau i fod yn drefnus, o gymryd nodiadau i gydweithio â myfyrwyr eraill, darllenwch ein hawgrymiadau am Astudio’n Gynaliadwy.
Ar gyfer gwybodaeth deithio
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol neu’n ymuno â’r Drindod Dewi Sant o ran arall o’r DU, efallai yr hoffech chi ystyried ap i’ch helpu i deithio o gwmpas. Mae holl gampysau’r Drindod Dewi Sant wedi’u lleoli mewn ardaloedd bywiog a phrydferth o Gymru, felly byddwch chi eisiau gwneud yn fawr o’r hyn sydd gan y wlad o gwmpas i’w gynnig i chi.
Mae ap dwyieithog gwych gan Traveline Cymru sy’n gallu’ch helpu chi i gynllunio teithiau, chwilio am amserlenni a gweld newidiadau mewn gwasanaethau bws lleol. O lawrlwytho hwn byddwch yn teimlo’n fwy hyderus eich bod ar y llwybr iawn.
Hefyd gallwch chi ddefnyddio ‘Explore’ ar Google Maps i’ch helpu i symud o gwmpas, gan ddod o hyd i’ch archfarchnad agosaf neu le da newydd i fwyta.
Ar gyfer diogelwch personol ar nosweithiau allan
Er bod cadw’n effro ac aros gyda ffrindiau’n helpu i sicrhau eich bod yn ddiogel ar nosweithiau allan, mae nifer o apiau diogelwch personol a allai helpu os ydych chi mewn sefyllfa anghyfforddus. Mae ap tebyg i Circle of 6 yn gadael i chi ddewis chwe ffrind gallwch chi ymddiried ynddyn nhw a bydd yn cysylltu â nhw’n gyflym, yn ochelgar ac yn hawdd os byddwch chi mewn trafferth. Os oes angen help i fynd adre arnoch chi neu angen siarad ar frys, bydd tapio’ch sgrin ddwywaith yn rhoi gwybod i’ch ffrindiau’n union ble rydych chi a sut gallan nhw eich helpu chi.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf
…Ac yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r ap ‘UWTSD Hwb’ o’ch siop ap. Ynddo mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i ddod i adnabod y brifysgol. Cewch bopeth o wybodaeth allweddol, mapiau’r campysau, digwyddiadau, cyngor a chanllawiau TG. Mae’n benderfyniad hawdd.
Oes ap rydych chi wedi’i lawrlwytho ers bod yn y brifysgol ond na allwch chi wneud hebddo? Dywedwch wrthym ni amdano yn @UWTSDStudents