Ydych chi wedi meddwl am Astudiaethau Ôl-raddedig yn y Drindod Dewi Sant?
Gobeithio eich bod wedi cael amser gwych gyda ni hyd yn hyn ond does dim rhaid i’ch amser yn y Drindod Dewi Sant ddod i ben eto.
Nid yw’n rhy hwyr i wneud cais am le ar gwrs Meistr.
Gan ddechrau ym misoedd Medi a Hydref eleni mae ystod enfawr o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau rhan amser, ar-lein a dysgu o bell a fydd yn addas i’ch ffordd o fyw.
Oes diddordeb gennych mewn gweithio yn y diwydiant VFX ar lefel broffesiynol? Ewch â’ch medrau a’ch cariad i’r lefel uchaf posibl gyda rhaglen newydd MA VFX PCYDDS yn dechrau mewn mis Medi.
Ewch i uwtsd.ac.uk/postgraduate/ma-vfx am manylion a gwybodaeth am y rhaglen.
Os ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan amser mae benthyciadau o hyd at £17,000 ar gael a hefyd mae gennym nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael ar gyfer myfyrwyr Meistr.
Ac os ydych yn meddwl am TAR mae bwrsariaethau ar gael gan y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru.
Eisiau gwneud gwahaniaeth gyda’ch gradd?
Mae dewis addysgu fel gyrfa yn rhoi’r cyfle i chi alluogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial, gan wneud gwahaniaeth enfawr yn eu cymunedau.
Rhagor o wybodaeth am ein Cyrsiau TAR.
- Roedd myfyrwyr ôl-raddedig wedi rhoi’r Drindod Dewi Sant yn 6ed yn y D.U. am astudio ôl-raddedig yn Whatuni Student Choice Awards
- Ac roedd 100% o fyfyrwyr ôl-raddedig y Drindod Dewi Sant naill mewn gwaith a / neu’n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio –DLHE 2015/16.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth cofiwch gysylltu â ni