Astudio’n Gynaliadwy
Yn y Drindod Dewi Sant rydym wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ac yn ymdrechu i fabwysiadu dulliau gwyrdd ar bob cyfle. Os ydych chi, fel ni, yn credu mewn symud tuag at ddyfodol mwy gwyrdd, efallai byddwch chi’n mwynhau’r syniadau hyn ar gyfer astudio mwy cynaliadwy. Ewch ati!
Gwneud nodiadau mewn darlithoedd
Os ydych chi’n poeni am faint o bapur rydych chi’n ei ddefnyddio mewn darlithoedd, rhowch gynnig ar ap rhad ac am ddim megis Evernote. Mae Evernote yn ap gwneud nodiadau sy’n caniatáu i chi ysgrifennu â llaw, lluniadu neu deipio, ychwanegu recordiadau sain, dolenni ac atodiadau ar gyfer nodiadau darlith trylwyr ac effeithlon. Bydd yn rhoi llawer o hyblygrwydd ichi, gan adael ichi ddefnyddio pa ddull bynnag sydd fwyaf addas i’ch arddull ddysgu.
Bonws arall yw y bydd eich nodiadau’n aros fel y maent. Ni fyddant yn mynd yn anniben neu’n grychlyd a chânt eu cadw i gyd mewn un lle’n barhaol, a fydd yn ddiamau’n ddefnyddiol yn ystod cyfnodau arholiadau. Mae’n ateb gwych i wastraffu papur, ac yn sicr yn werth rhoi cynnig arno.
Os ydych chi’n mwynhau rhannu’ch nodiadau â ffrindiau ar eich cwrs, bydd platfform megis Evernote neu OneDrive yn ei gwneud hi’n haws cydweithio.
Torrwch lawr ar nodiadau ‘post-it’
Os ydych chi’n eu defnyddio i greu rhestrau o bethau i’w gwneud, nodau tudalen, neu’n hoffi eu plastro dros eich fflat yn ystod amser adolygu, rydym ni i gyd yn euog o ddefnyddio cannoedd o nodiadau ‘post-it’ yn ystod ein hastudiaethau. Yn lle hynny, beth am fynd yn ddi-bapur? Lawrlwythwch ap megis Google Keep ar eich dyfais er mwyn categoreiddio’ch meddyliau a’u hidlo gan ddefnyddio lliw. Mae’n hawdd ei ddefnyddio, a bydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau fel bod eich syniadau o fewn cyrraedd bob amser. Os ydych chi’n ddysgwr gweledol, gallai hwn fod yr offeryn adolygu perffaith i chi.
Os oes rhywbeth sy’n achosi anhawster penodol i chi, beth am osod eich nodiadau fel sgrin gloi’ch ffôn? Fyddwch chi ddim yn hir cyn cymryd y wybodaeth honno i mewn!
Defnyddiwch y Llyfrgell Ar-lein
Mae Llyfrgell Ar-lein y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio miloedd o adnoddau’n cynnwys e-lyfrau, e-gyfnodolion, papurau newydd ar-lein a chronfeydd data arbenigol. Gwnewch yn fawr o’ch mynediad i’r adnoddau tra byddwch yn fyfyriwr a thorri lawr ar eich milltiroedd ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan.