Wedi’i diweddaru ar 31 Ionawr 2020
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) am 11pm GMT ar 31 Ionawr 2020, ond bydd yn gadael ar sail cytundeb a wnaed rhwng y DU a’r UE a elwir yn Gytundeb Ymadael.
Myfyrwyr o’r UE
Sylweddolwn efallai fod gennych gwestiynau ynghylch sut gallai BREXIT effeithio ar eich statws/astudiaethau yn y DG, felly edrychwch ar y dolenni isod i gael yr wybodaeth ddiweddaraf:
Ewch i wefan Universities UK i gael rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu, cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, a manylion i’r rheini ohonoch sy’n dymuno gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.
Os hoffech chi wybod os ydych chi’n parhau i fod yn gymwys am fenthyciadau a grantiau, neu os ydych chi’n mynd adre dros y gwyliau ac yn poeni am sut gallai BREXIT effeithio arnoch chi wrth deithio yn ôl i’r DG, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn
Yswiriant iechyd ac EHIC i fyfyrwyr y DU a’r UE
Myfyrwyr y DU dramor
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyflwyno cynnig i gadw’r trefniadau gofal iechyd presennol (yswiriant EHIC) hyd yn oed os bydd Prydain yn gadael yr UE heb gytundeb. Bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr y DU dramor tan fis Rhagfyr 2020.
Fodd bynnag, os bydd Prydain yn gadael heb gytundeb, efallai na fydd Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) bellach yn ddilys i fyfyrwyr y DU sy’n teithio oddi mewn i’r UE ac o’r herwydd, bydd angen i chi drefnu yswiriant iechyd wrth deithio dramor.
I gael cyngor, ewch i wefan GIG yn ogystal â thudalen teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon eraill mae croeso i chi gysylltu â ni ar hwb@uwtsd.ac.uk