Bwletin Cynaliadwyedd
Yn y Drindod Dewi Sant rydym wedi ymrwymo i wneud ein campysau, ein haddysg a’n cymunedau yn fwy cynaliadwy.
Mae gwneud gwahaniaeth yn golygu mwy na chynnal Wythnos Byddwch Wyrdd yn unig. Rydym wedi casglu ynghyd rai o’r ffyrdd gorau o fod yn fwy cynaliadwy, yn amrywio o gyfleoedd hyfforddi i lawrlwytho ap. Mae yna rywbeth yma fydd yn ddefnyddiol i chi. |
|
![]() Beth yw effaith werdd eich campws chi?Cefnogwch adrannau’r brifysgol i ennill tystysgrif Effaith Werdd trwy ddod yn archwilydd Effaith Werdd. Cewch hyfforddiant am ddim a chymhwyster IEMA achrededig. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy Cymerwch ran yn nigwyddiadau Diffodd Popeth eich Undeb Myfyrwyr ar 15 Chwefror. Lleihau carbon a pizza am ddim, beth gwell? |
|
![]() Lleisiwch eich barnDywedwch wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn am eu cynlluniau i fynd i’r afael ag effeithiau Newid yn yr Hinsawdd Gadewch i’r gwleidyddion sy’n eich cynrychioli wybod pa fesurau cynaliadwyedd yr hoffech chi eu gweld. Ddim yn siŵr â phwy i siarad? Edrychwch ar ein canllaw i wleidyddiaeth . |
|
![]() Newidiadau bachRhowch ychydig o’ch amser i wirfoddoli gyda’ch sefydliadau lleol neu ymunwch â’ch Undeb Myfyrwyr i lanhau traethau’n rheolaidd. Crëwch le astudio cynaliadwy ac iach sydd â phlanhigyn. Efallai y byddwch wedi cael planhigyn gennym ar y campws yn ddiweddar, a defnyddiwch lai o bapur trwy roi cynnig ar rai dewisiadau gwahanol ar-lein. Ystyriwch pa effaith rydych chi’n ei gael eisoes trwy gymryd her yr amserydd plastig, neu dilynwch yr awgrymiadau hyn i leihau eich gwastraff bwyd ac arbed peth arian. Os ydych yn dilyn esiampl Marie Kondo gan ailgylchu’ch eiddo nad ydych mo’u heisiau mwyach, neu os ydych yn chwilio am unrhyw beth o lyfrau i welyau, dewch yn gyfarwydd â’ch siopau elusen lleol, ffyrdd o gyfrannu a safleoedd fel Freecycle. Dal i chwilio am syniadau? Rhowch gynnig ar un o’r rhain
|
|
|
|
Cofiwch ddilyn @UWTSDStudents ar Twitter, Facebook ac Instagram |
Don’t forget to follow @UWTSDStudents on Twitter, Facebook and Instagram |
Am fwy o fanylion Adran Profiad Myfyrwyr: 01792 481225 E-bost: student-bulletin@uwtsd.ac.uk |
Further Information Student Experience Department: 01792 481225 Email: student-bulletin@uwtsd.ac.uk |
© Hawlfraint 2019
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
© Copyright 2019
University of Wales Trinity Saint David |