Nawr eich bod chi wedi setlo i mewn i’ch cwrs, efallai eich bod yn meddwl am ffyrdd o wella’ch CV tra byddwch chi’n astudio. Yn ffodus, yn y Drindod Dewi Sant rydym ni wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi ar hyd eich astudiaethau ac i mewn i waith.
Oeddech chi’n gwybod os ydych chi’n fyfyriwr israddedig llawn amser a hoffai gymryd cwrs ychwanegol i ategu’ch astudiaethau, gallwch chi wneud cais am hyd at £200 o gefnogaeth? Meddyliwch am rywbeth fel cwrs yn Iaith Arwyddion Prydain os ydych chi’n astudio Addysg, neu Gymorth Cyntaf os ydych chi’n fyfyriwr Chwaraeon, Iechyd neu Addysg Awyr Agored.
Gallai dysgu sgil newydd i ategu’ch gradd roi’r fantais y mae ei hangen arnoch chi i gael swydd eich breuddwydion pan fyddwch chi’n ein gadael ni yn y pendraw. Ddim yn siŵr beth hoffech chi’i wneud pan fyddwch chi’n gadael? Peidiwch â phoeni – gallai datblygu sgil mewn maes newydd wella’ch lles a’ch helpu chi i adnabod maes diddordeb penodol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae llawer o ddyddiadau terfyn ar gyfer y bwrsari Uwch-sgilio ar hyd y flwyddyn academaidd, felly cadwch eich llygaid ar agor a gwnewch yn fawr o’r cyfle yma.