Ydych chi ar fin graddio mewn pwnc creadigol yn Y Drindod Dewi Sant? Hoffech chi ennill profiad ymarferol o weithio mewn diwydiant creadigol?
Mae gan Arts & Business Cymru gyfle gwych ar gyfer paru graddedigion diweddar â sefydliad celfyddydau yng Nghymru am interniaeth gyflogedig wedi ei mentora dros 10 mis.
Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn rôl ym maes codi arian ar gyfer y celfyddydau, a chael cymorth strwythuredig gan y sefydliad sy’n eich derbyn, gan gynnwys mentora gan godwr arian uwch. Byddwch hefyd yn elwa o gyrsiau hyfforddi Art & Business Cymru a chymorth gan fentor busnes a ddewiswyd yn arbennig.
Cewch chi eich paru â’ch sefydliad dielw ar sail eich diddordebau a’ch lleoliad daearyddol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle a phecynnau cais, ewch i wefan Arts & Business Cymru.
Dyddiad cau: 12 Gorffennaf 2019