Oeddech chi’n gwybod bod 1 o bob 7 myfyrwraig wedi dioddef oherwydd ymosodiad rhywiol neu drais difrifol?
Mae’r ffigwr brawychus hwn yn dangos bod rhaid i rywbeth newid.
Mae ymosodiadau rhywiol a threisio yn digwydd ar y campws. Mae’n bwysig bod pawb yn gwybod beth mae cydsynio i weithgarwch rhywiol yn ei olygu, gan barchu ffiniau personol, a hawl pob unigolyn i ddweud ‘na’. Yn Y Drindod Dewi Sant, credwn fod cynnwys cydsynio mewn sgyrsiau pob dydd yn ffordd dda o frwydro yn erbyn yr ystadegau trallodus hyn. Ni fydd pawb wedi cael cyfle i gael sgyrsiau am ryw a chydsynio, a hoffem eich bod yn ein helpu ni i normaleiddio’r sgyrsiau hyn.
Beth yw cydsynio?
Caniatâd rhywiol yw’r caniatâd a roddir gan unigolion. Mae’n weithredol, yn bositif, ac yn gadarnhaol, ac mae angen i’r naill barti a’r llall ei roi.
Gellir tynnu’r cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, ac mae’n hollbwysig ein bod yn parchu hawliau pobl i newid eu meddwl. Nid yw’n amhendant, ychwaith. Nid yw cael cyfathrach gydsyniol unwaith yn golygu o reidrwydd y cewch chi ganiatâd y tro nesaf.
Treisio neu ymosodiad rhywiol yw gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad ac mae hynny yn erbyn y gyfraith. Gwnewch yn siŵr bod eich partner yn cytuno o’i wirfodd i gael cyfathrach neu gyflawni gweithgarwch rhywiol â chi. Mae’n bwysig iawn.
Sut ydw i’n gwybod bod gen i gydsyniad?
Mae Laci Green yn rhoi cip ardderchog ar sut i adnabod cydsyniad.
Cofiwch fod angen gallu er mwyn cydsynio ac, o dan y gyfraith, ni ellir gwneud hynny os yw’r person yn feddw mewn unrhyw fodd. Ni ellir rhoi cydsyniad os yw deinameg pŵer yn ffactor. Er enghraifft, os dywedodd eich cyflogwr y gallech chi gadw eich swydd pe baech yn cael cyfathrach rywiol ag ef neu hi, nid ydych yn rhydd i beidio â gwneud y penderfyniad hwnnw. Aflonyddu rhywiol ydyw, ac mae eich cyflogwr yn torri’r gyfraith.
Mae cydsyniad yn syml, fel cynnig cwpanaid o de i rywun.
Beth os bydd rhywbeth yn digwydd i mi?
Os ydych wedi dioddef oherwydd treisio neu ymosodiad rhywiol, cewch chi geisio cymorth trwy;
- Fanteisio ar gymorth gan y Gwasanaeth Cwnsela ar eich campws
- Manteisio ar gymorth gan New Pathways, sy’n gallu cynnig gwahanol wasanaethau ar gyfer gwahanol achosion o argyfyngau treisio a cham-drin rhywiol, gan gynnwys ymchwiliadau meddygol fforensig, gwasanaethau cwnsela, paratoi cyfweliadau heddlu a gwybodaeth a chymorth pellach
- Ffonio’r heddlu i roi gwybod am yr ymosodiad. Deialu 999 os yw’n argyfwng, neu 101 os nad yw’n argyfwng ond eich bod am roi gwybod am argyfwng, neu 101 os nad yw’n argyfwng
Cofiwch fod y gyfraith yn glir; mae cael cyfathrach rywiol neu gyflawni unrhyw weithgarwch rhywiol heb gydsyniad yn anghyfreithlon, a dim ond y sawl sy’n cyflawni’r drosedd a all fod ar fai. Helpwch ni i ddechrau sgyrsiau a chreu amgylchedd cymdeithasol ac addysgol lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Rydym am greu cymuned o fyfyrwyr a staff sy’n parchu ei gilydd, ac mae rôl i bawb yn hynny o beth.