CYFLE I ENNILL MANTAIS!!
Yn rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu profiad gwaith, mae PCYDDS yn cynnig nifer o fwrsarïau interniaeth hyd at £1000 i fyfyrwyr PCYDDS sy’n dymuno cael profiad gwaith perthnasol gyda chwmni/grŵp na all gynnig gwaith â thâl.
Gallwch ennill mantais trwy ychwanegu profiad ymarferol at y wybodaeth rydych yn ei datblygu yn yr ystafell ddosbarth.
Gweithiwch gyda chyflogwyr blaenllaw, gan elwa ar gyfleoedd rhwydweithio gwych a chael cipolwg ar arferion gweithio proffesiynol. Gwnewch argraff arbennig drwy interniaeth.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ac mae nifer o ddyddiadau cau am geisiadau ar hyd y flwyddyn. I gael y manylion llawn ewch i’n tudalen bwrsarïau.
Diddordeb?
Cysylltwch ag:
Amanda Hughes
amanda.hughes@uwtsd.ac.uk