Cyfrannu Fel Awdur Gwadd
Hoffech chi gael cyfle i gyhoeddi eich gwaith ysgrifennu ar-lein? Neu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu/blogio? A oes gennych chi awgrymiadau yr hoffech chi eu rhannu gyda’ch cyd-fyfyrwyr?
Rydym eisiau clywed sut rydych chi’n cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a’ch astudiaethau yn y Brifysgol. O lesiant i adnoddau gyrfa; adfyfyrio ar brofiad rydych wedi’i gael i argymhelliad am ap, hoffem i chi gyfrannu at ein gwefan fel awdur gwadd.
Trwy gyflwyno darn i ni, nid yn unig y cewch gyfle i rannu eich profiadau gyda gweddill cymuned y Drindod Dewi Sant, ond gall cyhoeddi eich syniadau ar-lein fod o fudd i chi hefyd wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Os oes gennych syniad, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost i Hwb@uwtsd.ac.uk.