• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
Cymerwch reolaeth ar eich adolygu

Tweet

Efallai fod gennych chi ers tro ddull profedig ar gyfer llwyddo eich arholiadau, a mater o ddewis personol yw technegau adolygu yn y bôn. Gallai defnyddio cardiau ciw fod yn effeithiol i chi, ond efallai na fydd y rhain o fudd i’ch cyfaill dosbarth.  

Fodd bynnag, wrth i chi fwrw i’ch gwaith adolygu, mae rhai pethau i’w cofio a allai wella eich astudiaethau’n sicr, ac a allai olygu eich bod chi’n cael y marciau ychwanegol hollbwysig hynny. 

Gosod y cefndir

Mae cynllunio’r amgylchedd astudio perffaith yn bwysig er mwyn canolbwyntio a ffocws pan fydd angen adolygu a gwneud aseiniadau. Mae pawb wedi defnyddio’r term ‘lle hapus’ i ddisgrifio rhywle y gallwn fynd i ymlacio a dadflino, a’r un yw’r egwyddor ar gyfer ein hamgylchedd gwaith. Y gwahaniaeth yw bod angen sefydlu ein ‘lle hapus’ i weithio fel y gallwn fynd i mewn i’r parth a dod o hyd i bopeth y mae arnom ei angen.

  • Mae cysur yn allweddol

Mae bod yn gyfforddus mewn lle astudio yn golygu sicrhau cydbwysedd. Dydych chi ddim am fod mor gyfforddus fel na allwch chi ganolbwyntio neu barhau’n effro. Eistedd wrth ddesg neu fwrdd gyda chadair gyfforddus sydd orau, fel arfer, ac mae’n well i’ch iechyd. Gallai gweithio yn y gwely fod yn ymlaciol, ond gallai anfon arwyddion i’ch ymennydd sy’n gysylltiedig â chysgu yn hytrach nag astudio.

  • Personolwch eich lle

I rai pobl, gall rhywfaint o naws bersonol yn y lle astudio wneud llawer i hybu astudio rhagweithiol. Gall ychwanegu rhai addurniadau  neu negeseuon ysbrydoledig helpu i ysgogi rhai pobl i barhau i ddal ati.

  • Tacluswch yr annibendod

Gall cadw eich lle astudio yn lân a threfnus hefyd helpu i wella amser astudio yn enwedig gan y gall lle astudio anhrefnus neu anniben dynnu eich sylw. Gall gweithio mewn lle glân helpu i wella ffocws a thawelwch meddwl, a bydd hi’n haws i chi ddod o hyd i bethau.

  • Cerddoriaeth

Mae gwrando ar gerddoriaeth wrth astudio yn aml yn dibynnu ar y person, gan fod cerddoriaeth yn gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Felly wrth ystyried chwarae cerddoriaeth yn eich lle astudio, byddwch yn onest gyda chi eich hun. Byddwch chi’n gwybod pa gerddoriaeth, os o gwbl, sy’n eich helpu chi i ganolbwyntio.

Byddwch yn gall a dewis y ffordd orau o’ch helpu i amsugno’r wybodaeth.

Edrychwch ar rai cynghorion defnyddiol eraill yma

 Peidiwch â dysgu’r ffeithiau yn unig, mwynhewch y pwnc 

Ni ddylai adolygu olygu dysgu llwyth o ffeithiau ar y cof mewn amser byr; dylai fod yn gyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth ehangach o gynnwys eich cwrs, gan ddysgu am y darlun ehangach a gwneud cysylltiadau â’r hyn rydych chi’n ei wybod eisoes. Pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith adolygu, dylech chi deimlo nid yn unig eich bod chi’n barod i sefyll eich arholiad, ond dylech chi hefyd fod wedi datblygu’n ymarferydd yn eich dewis bwnc.  

Felly, yn hytrach na dysgu pethau ar y cof ac wedyn symud i’r pwnc nesaf, byddai’n well i chi barhau i fynd yn ôl i’r hyn rydych chi wedi ei ddysgu, gan ddal i gyfoethogi’r wybodaeth sydd gennych eisoes, ac ychwanegu lled a dyfnder. Mae’n bwysig eich bod chi’n adeiladu ar yr hyn rydych yn ei wybod, yn hytrach na dysgu gwybodaeth arwynebol am lawer o bethau. Ffordd wych o ddatblygu eich gwybodaeth yw trwy roi sylw gofalus i’r testunau anhanfodol ar eich rhestrau darllen. Bydd y rhain yn cynnig llwybr arbennig i chi blymio’n ddyfnach i gynnwys eich cwrs. O’i wneud yn y modd hwn, bydd yr adolygu hefyd yn fwy diddorol o lawer ac mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n cadw eich ffocws wrth i chi baratoi ar gyfer eich arholiadau. 

Byddwch yn weithredol 

I sicrhau eich bod chi’n adolygu’n effeithiol, mae’n syniad da cymryd ychydig amser i holi ai dull gweithredol neu oddefol sydd gennych chi.  

Os ydych chi’n treulio eich holl amser yn darllen nodiadau ac yn copïo deunydd, gallech chi ddefnyddio eich amser yn well trwy ymwneud yn  fwy gweithredol â’ch adnoddau dysgu. Yn hytrach na dewis rhannau o’ch darllen a’u lleihau a’u hadolygu, ceisiwch ysgrifennu’r syniadau yn eich geiriau eich hun, gan wneud cysylltiadau a’u trefnu mewn ffordd sy’n eich helpu chi i’w deall yn well. Gallech chi hefyd geisio creu diagramau a siartiau neu drawsnewid rhannau o’ch adolygu’n strwythur hierarchaidd.   

Peth gwych arall am adolygu gweithredol yw y gall hwyluso gwaith grŵp gwerthfawr. Mae trafod pynciau â ffrind ar eich cwrs, gan nodi elfennau tebyg a rhannu syniadau yn ffordd wych o ddatblygu lled eich gwybodaeth a gall gyfoethogi eich profiad dysgu. Manteisiwch yn llawn ar Microsoft Teams i sefydlu cyfarfod a rhannu awgrymiadau a dulliau.

Dysgwch beth yw’ch cryfderau 

Yn ystod eich amser mewn addysg uwch, mae’n debyg y byddwch chi wedi dod i ddeall yn fras sut rydych chi’n rheoli eich adolygu. Pa un a ydych yn fwy cynhyrchiol wrth weithio gyda ffrindiau neu ar eich pen eich hun; mewn siopau coffi neu’n dawel yn y llyfrgell; bydd gan bawb ddewis sydd orau ganddyn nhw. Yn yr un modd â’r dechneg adolygu neu’r lleoliad a ddewiswch, mae’n bwysig i chi adnabod hefyd ble rydych chi gryfaf yn y cynnwys rydych chi wedi ei ddewis.  

Ni fydd hi’n bosibl i chi ragweld y pynciau fydd yn codi yn eich asesiad, ond mae’n bosibl i chi wneud yn fawr o’ch cryfderau a’u defnyddio i oleuo’r rhannau o’ch gwaith adolygu sy’n llai at eich dant. Er enghraifft, efallai y bydd hi’n haws i chi ddeall cyfnod mewn hanes trwy gyfeirio at baentiad rydych chi’n gyfarwydd ag ef. Cofiwch: os byddwch chi’n trafod rhywbeth sydd o ddiddordeb angerddol i chi yn eich arholiad, bydd hynny’n amlwg yn yr hyn a ysgrifennwch a bydd eich dadl yn fwy argyhoeddiadol.  

Meddylfryd Arholiadau 

Am fod cymaint yn y fantol os llwyddwch neu fethu eich arholiadau, mae’n anorfod y byddwch chi o dan rywfaint o straen wrth baratoi. Mae’n berffaith naturiol i chi deimlo ychydig yn bryderus, ac yn aml gallai defnyddio’r egni hwn mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol, fod o les i chi maes o law. Ewch i’r post hyn i gael cyngor am sut i gynnal meddylfryd arholiadau cadarnhaol gydol y cyfnod adolygu.   

Os teimlwch chi o dan y don, cofiwch fod digon o bobl yn Y Drindod Dewi Sant i’ch helpu chi gydol eich astudiaethau. O’ch llyfrgellydd pwnc i sesiynau sgiliau astudio, gallwch gael gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth academaidd sydd ar gael i chi trwy fynd i dudalennau Cymorth Academaidd ar yr UWTSD Hwb..  

Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol ar adolygu i’ch cyd-fyfyrwyr? Hoffem ni glywed amdanyn nhw. Rhowch wybod i ni trwy ddilyn @UWTSDStudents ar Twitter a Facebook.

connect Make Change Instagram Your Uni cysylltu cyngor Lles jobs Eich Prifysgol Datblygiad Sgiliau Sylw Ffordd o Fyw Study Smart resources Work Opportunities Wellbeing Skills Development cyngor mindset networking Cyngor Uncategorized Lifestyle advice Gwneud Newid Skills & Employability Instagram opportunities volunteering datblygiad meddylfryd development graduates lles Top Tips Awgrymiadau Gorau cyfleoedd work experience Featured skills Advice wellbeing Sgiliau a Cyflogadwyedd career Inspiration

Related Posts

Cymorth gyda LinkedIn

Instagram /

Cymorth gyda LinkedIn

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Lles /

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

E-byst Gwe-rwydo a Sbam

Awgrymiadau Gorau /

E-byst Gwe-rwydo a Sbam

‹ Take control of your revision › The Exam Mindset
resources connect cyngor Uncategorized volunteering Top Tips opportunities cysylltu Cyngor Datblygiad Sgiliau development Skills Development advice Lifestyle Wellbeing wellbeing Featured jobs Make Change Instagram Skills & Employability Advice meddylfryd career Eich Prifysgol Lles graduates cyngor Gwneud Newid Inspiration Sylw Instagram skills Work Opportunities Study Smart cyfleoedd networking mindset Awgrymiadau Gorau Sgiliau a Cyflogadwyedd Your Uni Ffordd o Fyw work experience lles datblygiad

Back to Top

Latest Tweets

  • Cynhelir Diwrnod Canser y Byd bob 4 Chwefror. Wedi’i greu yn y flwyddyn 2000, mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i… twitter.com/i/web/status/1…
    14 hours ago
  • World Cancer Day is held every 4 February. Created in the year 2000, World Cancer Day has grown into a positive mo… twitter.com/i/web/status/1…
    14 hours ago

Trydar Diweddaraf

  • Cynhelir Diwrnod Canser y Byd bob 4 Chwefror. Wedi’i greu yn y flwyddyn 2000, mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i… twitter.com/i/web/status/1…
    14 hours ago
  • World Cancer Day is held every 4 February. Created in the year 2000, World Cancer Day has grown into a positive mo… twitter.com/i/web/status/1…
    14 hours ago

Recent Posts

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Blogiadau Diweddar

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant