Cymorth gyda LinkedIn
LinkedIn yw’r ffordd orau o gofnodi’r llwyddiannau, y profiadau a’r sgiliau yr ydych chi wedi eu sicrhau yn y Brifysgol yn barod i greu argraff ar ddarpar gyflogwyr.
LinkedIn yw rhwydwaith proffesiynol mwyaf y byd, mae ganddo dros 562 miliwn o aelodau mewn 200 o wledydd a thiriogaethau ar draws y byd
Mae LinkedIn yn blatfform defnyddiol ar gyfer:
- Chwilio am swyddi
- Cysylltu ag arbenigwyr o fyd diwydiant
- Ymchwilio i lwybrau gyrfa posibl
Os ydych chi’n newydd i LinkedIn neu’n awyddus i wella eich proffil, gallwch gael gwybod mwy am sut i sicrhau presenoldeb llwyddiannus ar LinkedIn isod:
C
Dewiswch ddelwedd broffesiynol ar gyfer eich proffil LinkedIn
Os oes gennych lun ar eich proffil, rydych chi’n fwy tebygol o ymddangos mewn chwiliadau ar y platfform. Dewiswch rywbeth sy’n eich adlewyrchu chi a’r math o yrfa y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo.
Gwnewch yn siŵr fod eich proffil yn gyfredol
Mae LinkedIn yn blatfform syml i’w ddefnyddio ac yn hawdd i’w ddiweddaru. Cyn gynted y byddwch yn dechrau swydd newydd neu’n gorffen lleoliad/prosiect, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i ddiweddaru eich proffil, yn enwedig os ydych yn awyddus i gysylltu â phobl newydd ar y platfform.
Dewiswch gysylltiadau sy’n iawn i chi
Mae gwneud cysylltiadau ar LinkedIn yn agor cronfa fwy o rwydweithiau posibl, ond mae’n bwysig peidio â chanolbwyntio ar ehangu eich rhwydwaith yn unig, ond dewis gwneud y cysylltiadau sy’n bwysig i chi a’ch gyrfa. Cysylltwch â phobl mewn diwydiant tebyg, neu mewn rôl y byddai gennych ddiddordeb yn ei chyflawni yn y dyfodol.
Ychwanegwch nodyn wrth gysylltu
Pan fyddwch yn anfon cais i gysylltu â phobl ar y platfform, bydd gennych y dewis i ychwanegu nodyn. Os nad ydych chi’n eu hadnabod nhw’n dda, neu ddim o gwbl, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu nodyn yn egluro pam rydych chi eisiau cysylltu â nhw (gan gynnwys gwybodaeth am y meysydd sy’n gyffredin i chi, ac unrhyw gysylltiadau cyffredin sydd gennych).
Lawrlwythwch ap LinkedIn
Mae’n adnodd gwych ar flaenau eich bysedd ac mae’r swyddogaeth messenger yn eich helpu i gynnal rhwydweithiau a chadw mewn cysylltiad.
Canllaw i ddechreuwyr – Cyngor ar sefydlu ac ychwanegu cynnwys at eich proffil
Awyddus i wella eich proffil?
Bydd y fideo hwn yn amlinellu’r tri phrif gyngor ar gyfer defnyddio LinkedIn yn 2018