Cyfleoedd i Siaradwyr y Gymraeg
Y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Datblygwyd y Dystysgrif Sgiliau Iaith gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i roi tystiolaeth i fyfyrwyr yng Nghymru o’u sgiliau iaith i’w chyflwyno i ddarpar gyflogwyr. Mae’r dystysgrif yn cael ei chydnabod gan gyflogwyr blaenllaw megis Llywodraeth Cymru ac ITV Wales fel tystiolaeth amlwg o’ch gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn ychwanegiad gwych at eich CV.
Cewch wybod sut i ennill y dystysgrif trwy fynd i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Astudio Modwl yn Gymraeg
Pa un a ydych eisoes yn rhugl yn yr iaith neu’n ddysgwr medrus, mae’n bosibl y bydd cyfleoedd i chi astudio modwl yn Gymraeg tra byddwch chi’n astudio gyda ni.
Mae cyfleoedd ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau ar gyfer siaradwyr rhugl i astudio yn y Gymraeg. Mae’r manteision o ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg tra byddwch yn y brifysgol yn aruthrol. Bydd astudio modwl yn Gymraeg yn:
· Rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau iaith ar lefel uwch
· Gwneud yn fawr o’r sgiliau sydd gennych eisoes
· Caniatáu i chi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill ar eich cwrs
· Eich gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru sy’n tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn well i fusnes
· Rhoi mynediad i chi i fwrsarïau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag astudio modylau trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â Bethan Wyn Davies drwy anfon e-bost at b.davies@pcydds.ac.uk <mailto:b.davies@pcydds.ac.uk> neu drwy ffonio 01267 676618.