Dinas ddiwydiannol sy’n llawn cymunedau bywiog, siopau, bwytai, bariau, ac wedi‘i lleoli nid nepell o olygfeydd aruthrol Penrhyn Gŵyr yw Abertawe. Abertawe yw ail ddinas Cymru a hefyd ei phrifddinas ddiwylliannol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cael enw da am ei horielau, eu hamgueddfeydd a’i lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae hyn ‘oll yn gwneud y ddinas yn lle gwych i fod yn fyfyriwr.
Gobeithiwn y byddwch yn hoffi’r awgrymiadau hyn a ddarperir gan staff PCYDDS ar gyfer fforio’r ddinas a’i hamgylchoedd.
Edrych ble ‘rydych chi
Mae cymaint i’w weld a’i wneud o gwmpas Abertawe byddwch yn teimlo bod gennych ormod o ddewis. Dywed John Kinsella o PCYDDS y dylai ymweld â Gŵyr fod ar frig eich rhestr. Yn enwog am fod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, y mae Penrhyn Gŵyr yn rhywle y mae rhaid ei weld, ac mae’n hawdd ei gyrraedd gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Pe baech am fynd am droeon ar hyd yr arfordir neu coetir, cymryd rhan mewn chwaraeon eithriadol neu cael pryd da mewn tafarn, mae Penrhyn Gŵyr yn 19 milltir o hyd ac felly mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Ewch ar fws rhif 118 o’r Orsaf Fysiau i ben pellaf y penrhyn, sef Rhosili, i weld un o olygfeydd arfordirol enwocaf Cymru, ac i draeth sy’n enwog am gael ei ddyfarnu’n gyson yn un o’r goreuon yn y DU.
Chwilio am rywbeth tawelach? Ystyriwch Fae Pwll Du, traeth bach, caregog, diarffordd wedi’i leoli ar waelod Cwm Llandeilo Ferwallt.
Bwyd
Yn hoff o’ch bwyd? Sicrhewch eich bod yn treulio bore ym Marchnad Abertawe. Hon yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, a gyda mwy na 100 o stondinau, gwnaiff yr amrywiol bethau sydd ar werth ynddi eich achosi i deimlo bod gennych ormod o ddewis. Yn ogystal â’r cyfoeth o ffrwyth ffres, llysiau, cig a physgod, mae gan y farchnad hefyd amrywiaeth wych o fannau bwyta. Pe baech am gael brecwast traddodiadol Cymreig neu ddanteithion o Wlad y Tai; swshi neu ginio fegan, mae gan y farchnad rywbeth i gynnig i bawb.
Os ydych yn teimlo’n arbennig o anturus ac am flasu rhywbeth lleol, prynwch dwb agored o gocos a’u mwynhau wrth gerdded o gwmpas y farchnad, neu ewch ag ychydig o fara lawr adref i’w rannu gyda’r bobl newydd sy’n rhannu eich fflat.
Mae llawer o stondinau yn cynnig disgownt i fyfyrwyr, dim ond i chi ddangos iddynt eich cerdyn Totum.
Bwyd i Lysfwytawyr
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Abertawe wedi cynnig amrywiaeth fwy o opsiynau fegan a llysfwytäol. Pe baech yn chwilio am bryd da neu fyrbryd iachus, sicrhewch eich bod yn ymweld â’r mannau hyn:
- Mae Govindas, ar gyfer llysfwytawyr a feganiaid, a leolir tafliad carreg yn unig o’r Coleg Celf, wedi chwarae rhan sylweddol ar y sîn fwyd ar gyfer llysfwytawyr ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’r bwyd yn fforddiadwy, yn flasus, ac ar achlysur, caiff dosbarthiadau yoga a myfyrio eu cynnig hefyd.
- Ychwanegiad diweddarach at yr hyn a gynigir ar gyfer llysfwytawyr a feganiaid Abertawe yw Canteen 18, caffe bach a leolir ar Heol Bryn y Môr ac sy’n nythu ymhlith lletyau y rhan fwyaf o fyfyrwyr Abertawe. Mae’n gyfleus iawn os ydych yn byw yn yr ardal ac yn chwilio am ginio rhad a blasus.
- Mae bwyty tapas bychan, caffe a delicatessen Arthur Neave, sydd ar Heol Walter, yn cynnal noson ar gyfer llysfwytawyr a feganiaid bob nos Iau. Os ydych yn chwilio am rywle cyfeillgar lle y gallwch ymlacio, dyma’r lle i fynd. Mae ganddynt hefyd glwb siarad Sbaeneg.
Bywyd Nos
Mae gan ddinas Abertawe bywyd nos bywiog, a bydd y rhan fwyaf o bobl wedi clywed am Stryd y Gwynt (sef Wind Street), y stribyn o dir bywiog yng nghanol y dre lle y ceir dwsinau o fariau a chlybiau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r stryd hon wedi dod yn hwb ar gyfer bariau annibynnol llai, yn hytrach nag archglybiau, ac mae’n werth ymweld â hi os ydych yn ‘wir mynd allan’, yn enwedig ar nosweithiau myfyrwyr (nosweithiau Mercher). Ond os ydych yn chwilio am rywle tawelach, mae digon yno ar eich cyfer chi hefyd.
Os nad oes gennych lawer o ddiddordeb mewn mynd i glybiau, a byddai’n well gennych yfed cwrw’n dawel gyda chyfeillion, mae gan y ddinas eto lawer mwy i’w gynnig. Ewch i ardal ‘yr Uplands’ a dewiswch un o nifer o fariau gwin, neu ewch i gyfeiriad Heol Bryn y Môr os ydych yn chwilio am dafarnau lle y gallwch ymlacio’n well. Yn mwynhau cynhyrchion crefft? Peidiwch â methu ymweld â Beer Riff, bragdy crefft â thap sy’n edrych lawr ar ardal brydferth SA1… heb fod nepell o gwbl o’r campws newydd.
Mae gan y ddinas hefyd sîn gerddoriaeth ffyniannus a gaiff ei chynrychioli orau gan Ŵyl Ymylol Abertawe a Hwb Cerddoriaeth Abertawe. Mae gan Abertawe sîn gelf fywiog, ac mae’r prosiectau disglair hyn yn cysylltu artistiaid, cynulleidfaoedd, lleoliadau a chymunedau’r ddinas â’i gilydd. Os oes gennych hefyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth, mae cymryd rhan yn ffordd dda i gwrdd â phobl newydd. Cadwch eich llygaid ar agor drwy gydol mis Hydref am ddigwyddiadau cyffrous.
Chwaraeon
Mae Abertawe yn lle gwych i fod os oes diddordeb gennych mewn chwaraeon. Mae’r ddinas yn cynnig cyfleusterau chwaraeon anhygoel yn cynnwys Pwll Cenedlaethol Cymru, canolfannau hamdden, traciau beic helaeth a llwybrau troed. Fodd bynnag, mae dau fath o chwaraeon yn dominyddu’r ddinas ac yn hyd yn oed rhannu stadiwm; pêl-droed a rygbi.
Ni fyddai’n iawn i ysgrifennu am Abertawe heb sôn am bêl droed a’i perthynas angerddol a weithiau gynhyrfus rhwng y ddinas a’r clwb, gydag uchafbwyntiau ac iselbwyntiau dwys iawn i hanes y clwb, mae cefnogwyr Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn enwog am eu hymrwymiad diflino tuag at y tîm.
Os nad oes diddordeb gennych mewn pêl-droed, cadwch lygad ar Y Gweilch. Un o bedwar tîm rhanbarthol Cymru sydd yn chwarae yn y Guiness Pro 14, welwch nhw yn y Stadiwm Liberty a phrofwch yr awyrgylch wych.
Lleolir cartref y clwb, y Stadiwm Liberty tua 2 filltir o ganol Dinas Abertawe, ac mae’n werth ymweld â hi, pe baech yn gwylio’r Swans, yn gweld gem ryngwladol neu gyngerdd.
Y Celfyddydau a diwylliant
Mae sîn gelf Abertawe wedi ymddangos fwyaf ar Y Stryd Fawr ac ar y darn o dir hwnnw sy’n gorwedd rhwng Ysgol Fusnes Abertawe, campysau Alex a Dinefwr, a’r môr. Ardal sydd wedi’i hadfywio’n ddiweddar yw hon, a bydd mynd am dro o gwmpas y rhan hon o’r dref bob amser yn eich synnu. Cadwch eich llygaid ar agor am gelf gyhoeddus a siopau dros dro achlysurol.
Mae gan yr ardal hon natur ddigymell, ac un o greadigedd a dathlu. Talwch sylw manwl ar;
- Theatr Volcano, cwmni celfyddydau ymatebol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu digwyddiadau safle-benodol a chynyrchiadau theatr.
- Oriel Elysium, menter gymdeithasol, ddielw, a arweinir gan artistiaid ac sy’n gartref i fannau ar gyfer stiwdios artistiaid, mannau arddangos, a llyfrgell, ac sy’n cynnal gweithdai a digwyddiadau celf.
- Swigen Greadigol, menter a sefydlwyd gan PCYDDS a BID Abertawe sy’n defnyddio siop wag i arddangos gwaith myfyrwyr drwy ddefnyddio siopau dros dro, arddangosfeydd, gweithdai a sgyrsiau.
- The Hyst, bar a lleoliad ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac yn gartref i stiwdio Deledu a Radio.
A ydym wedi anghofio rhywbeth? Rhennwch eich awgrymiadau ynglŷn ag Abertawe gyda ni drwy anfon neges atom gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol @UWTSDStudents