Y dref hynaf yng Nghymru, mae gan Gaerfyrddin hanes hir, ac mae’n fan perffaith i brofi diwylliant Cymru. Yn enwog am ei hetifeddiaeth Rufeinig, a’i chysylltiad â chwedl y Brenin Arthur, mae’r dref, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi datblygu enw da am fod yn lle bywiog a chosmopolitan. Mae ganddi fariau a bwytai bywiog, ochr yn ochr â dwy ganolfan siopa a llawer o siopau annibynnol bychain yn ogystal. Bydd byw yng Nghaerfyrddin yn eich darparu â chanolfan berffaith i fforio mannau prydferth lleol, cestyll, y cefn gwlad eang a morlin aruthrol De Cymru.
A dweud y gwir, mae cymaint i’w weld yno; a dylai’r awgrymiadau hyn eich helpu i sicrhau cychwyn cadarn i’ch cyfnod ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bwyd a Diod
Mae gan Gaerfyrddin enw disglair am fwyd a diod. Gyda’i marchnad dan do a siopau coffi annibynnol; bractai a therasau jin, cewch ormod o ddewis yno, yn enwedig os ydych yn hoff o fwyd.
Mae Llywydd yr Undeb Myfyrwyr, Becky Ricketts, yn argymell Florentino’s ar gyfer grwpiau o ffrindiau, oedau â chariadon, neu brydau allan gyda’r teulu pan fyddant yn ymweld â chi. Neu os ydych am fentro ychydig ymhellach o’r dref, rhowch gynnig ar Wrights Food Emporium, a leolir yn Llanarthne. Ymwelwch â nhw am frecwast blasus, cinio canol dydd neu ginio min nos gyda chynhwysion a ddaw o ffynonellau lleol, neu crwydrwch o amgylch eu delicatessen.
Os ydych yn chwilio am le i gael rhywbeth i fwyta ar frys wrth astudio, ewch i’r Atom. Mae’r caffe iaith Gymraeg hon yn gyfeillgar, ac oherwydd ei naws hamddenol, mae’n lle perffaith i adolygu eich iaith Gymraeg wrth fwynhau ysgytlaeth enfawr.
Beth am rywbeth ychydig mwy iach? Yn arbenigo mewn bwyd fegan, bwyd cartref a bwyd organig, y mae tu mewn gwledig a naws gynnes a chyfeillgar i’r Warren. Maent hefyd yn cynnal nosweithiau cwis yn rheolaidd, digwyddiadau cerddoriaeth fyw a breciniawau LHDTC misol.
Ceir yng Nghaerfyrddin rywbeth at ddant pawb, felly, peidiwch ag anghofio dod â’ch Cerdyn Totum gyda chi a defnyddio eich disgownt ar gyfer myfyrwyr i’r eithaf.
Yr Awyr Agored Gwych
Wrth fyw yng Nghaerfyrddin, byddwch mewn man perffaith i fforio morlin gwych Cymru a’i hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Dywed Sue Ainsworth o’r ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol;
Cymerwch amser rhag astudio i fforio’r arfordir a’r cefn gwlad prydferth sydd o’ch amgylch. Ewch ar y gwasanaeth 222 o Orsaf Fysiau Caerfyrddin i Dalacharn lle cafodd y gyfres wych Keeping Faith ei ffilmio… mwynhewch i’r eithaf eich amser yn Ne-orllewin Cymru!
Lleolir Talacharn hanner awr yn unig o’r campws, ac mae’n gartref hefyd i Dŷ cwch Dylan Thomas sy’n edrych dros y môr i gyfeiriad Arfordir Penrhyn Gŵyr.
Neu, ewch ar daith fer o’r campws ar y bws i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yma, fe ddewch o hyd i amrywiaeth o erddi â themâu iddynt, a’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd, yn ogystal â Phlas Pili Pala – tŷ ar gyfer gloÿnnod byw trofannol, a Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain. Mae’n lle gwych i gael picnic yn yr awyr agored ar ddiwrnod heulog. Ymwelwch â’u gwefan i ddarganfod yr hyn sy’n digwydd yn ystod y mis nesaf.
Y Celfyddydau a Diwylliant
Mae Caerfyrddin yn llawn orielau a mannau ar gyfer y celfyddydau yn ystod y dydd, ac yn fyw gyda mannau i brofi cerddoriaeth fyw a pherfformiadau yn y nos. Cofiwch i gadw llygaid mas am beth sy’n digwydd yn Theatr y Lyric
Chwaraeon
Mae Caerfyrddin yn lle gwych os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon;
Mae’n gartref i lawer o dimau chwaraeon, gyda Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin yn chwarae yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru, a Chlwb Pêl-droed Tref Gaerfyrddin yn chwarae yn Uwch Gynghrair Pêl-droed Cymru. Hefyd mae yna Felodrom newydd sbon i’r rhai sydd â diddordeb mewn seiclo…. ac yna, tua hanner awr i ffwrdd mewn car mae’r Sgarlets , sydd yn chwarae mewn pencampwriaeth Guiness Pro 14, gyda 3 rhanbarthau arall o Gymru a thimoedd o’r Alban, Iwerddon, Yr Eidal a De Affrica.
A ydym wedi anghofio rhywbeth pwysig? Rhennwch eich awgrymiadau ynglŷn â dod i adnabod Caerfyrddin gyda ni ar sianeli cyfryngau cymdeithasol @UWTSDStudents.