• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
Dewch i ‘nabod… Llambed

Tweet

Wedi ei leoli wrth galon tref farchnad brydferth fechan, mae gan gampws Llambed ddigon o atyniadau o’i amgylch i ennyn eich diddordeb. Y brifysgol hon yw’r hynaf, a safle’r gêm rygbi gyntaf i’w chynnal yng Nghymru; mae gan y campws hanes hir, gyda chefn gwlad syfrdanol o’i gwmpas i’w fforio.  Nawr eich bod wedi symud i mewn, byddwch yn awyddus i ddod i adnabod yr ardal leol. Ystyriwch yr awgrymiadau hyn er mwyn gwneud y gorau o’ch amser yn astudio yn Llambed.

Cymuned

Efallai’r peth mwyaf atyniadol am astudio yn Llanbed yw’r cysylltiad rhwng y campws a’r gymuned leol. Am fod y campws yn cael ei ddefnyddio gan drigolion y dref, mae ganddo naws gyfeillgar a chroesawgar, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch ymwneud â’r gymuned yn ystod eich astudiaethau, gan gyfoethogi eich profiadau myfyrwyr.

  • Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gwrdd â phobl newydd, datblygu sgiliau, ac wrth gwrs, rhoi yn ôl i’r gymuned leol. Cysylltwch â’r Undeb Myfyrwyr er mwyn darganfod pa gyfleoedd sydd ar gael.
  • Eich dewis cyntaf am noswaith allan dda yw’r Old Bar & Xtension. Yn gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr, ceir digwyddiadau at ddant pawb yno, gan gynnwys twrnameintiau pŵl, digwyddiadau gwisgoedd ffansi a chlybiau nos. Dim yn hoffi mynd allan? Beth am drefnu tîm ar gyfer eu noson gwis wythnosol?
  • Mae afon brydferth Dulas yn rhedeg drwy ganol campws Llambed, ac mae’r ddôl sydd nesaf ati yn fan perffaith i gael picnic amser cinio, barbeciw, neu i chwarae pêl droed. Ni all llawer o gampysau prifysgolion ymffrostio yn y ffaith bod ganddynt leoliad mor hardd, ac mae’n gyfle gwych i fod yn rhan gynhenid o’r gymuned leol.

Edrych ble ‘rydych chi

Fel myfyriwr yn Llambed, byddwch mewn lleoliad perffaith i ymweld â rhai o gyrchfannau mwyaf clodfawr Cymru. Argymhellir gan Steve Davies o’r Adran Profiad Myfyrwyr eich bod yn defnyddio bysiau lleol wrth ymweld ag amgylchoedd syfrdanol Llambed os ydych am eu mwynhau i’r eithaf;

  • Ar ôl gyrru am ryw 20 munud o’n campws, fe ddewch o hyd i Aberaeron, tref brydferth ar lan y môr. Mae’n ben taith perffaith am ddiwrnod allan, gyda’i machludau haul, digon o fannau i fwyta ac yfed, a  phorthladd lle y caiff dolffiniaid eu gweld yn aml. Mae’n werth ymweld â hi.   
  • Am ei bod hi’n dref brifysgol ffyniannus a phoblogaidd, mae’n hawdd cyrraedd Aberystwyth o Lambed gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae Aberystwyth yn dref arfordirol yng nghanol morlin Ceredigion, ac felly, mae’n ben daith poblogaidd gan rai sydd ar eu gwyliau. Mae gan y dref hanes hir ac mae’n llawn siopau annibynnol, caffes a bwytai. Mae hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cynnal digwyddiadau yn rheolaidd, ac mae ganddi lawer o arddangosiadau sefydlog a storïau hanesyddol a chwedlau diddorol o Gymru i’w rhannu. Ni fydd hon yn daith ofer.
  • Mae’r Cei Newydd yn dref syfrdanol arall ar lan y môr, taith o ryw hanner awr yn unig mewn car. Mae’r dref yn cynnig golygfeydd panoramig o arfordir Gorllewin Cymru ac mae’n ben taith gwych ar gyfer gweld bywyd gwyllt.

Cynlluniwch eich taith drwy ddefnyddio Traveline Cymru.

Bwyta ac Yfed

Mae Llambed yn lle gwych i fod os ydych yn hoffi bwyd. Am fod y dref yn llawn busnesau bychain annibynnol, ceir ynddi, felly, lawer o fannau hyfryd i fwyta ac yfed, gan gynnwys nifer o gaffes sy’n cynnig bwyd a theisenni cartref a baratoir yn ffres gan rai sy’n gwybod eu crefft. Mae’n enwog am fod yn gartref i Gaffe Conti, cynhyrchwyr hufen iâ Eidalaidd sydd wedi ennill gwobrwyon, ac mae’n gyrchfan perffaith ar gyfer cymryd egwyl rhag astudio ar ddiwrnod heulog.

Yn chwilio am rywle hyfryd i’w fforio dros y pen wythnos? Rhaid ymweld â Marchnad y Bobl a leolir yn Neuadd Fictoria, oherwydd arddangosir yma, rai o’r bwydydd lleol gorau, gwaith crefft a wnaed gan law, a cherddoriaeth fyw. Dewch o hyd i fwy o manylion yma.

Yn ychwanegol i hyn,  mae campws y brifysgol yn cynnal Ffair Fwyd Llambed, bob mis Gorffennaf, sy’n boblogaidd ac sy’n denu cannoedd o bobl sy’n frwdfrydig dros fwyd a diod i’r dref er mwyn siopa am gynnyrch lleol, i gymdeithasu  ac i wylio arddangosiadau byw gan ben gogyddion.

A ydym wedi anghofio dweud rhywbeth? Rhannwch eich hoff safleoedd gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol @UWTSDStudents.

resources Sylw advice datblygiad Featured Eich Prifysgol cyngor Gwneud Newid skills Top Tips Instagram lles Inspiration development networking graduates meddylfryd Lles Datblygiad Sgiliau Make Change Uncategorized Instagram cysylltu volunteering career work experience Skills Development cyngor opportunities connect Awgrymiadau Gorau Advice Work Opportunities Lifestyle Study Smart Cyngor Skills & Employability Wellbeing mindset jobs cyfleoedd Sgiliau a Cyflogadwyedd Your Uni wellbeing Ffordd o Fyw

Related Posts

Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Featured /

Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Advice /

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Email Phishing & Spam

Your Uni /

Email Phishing & Spam

‹ Get to know… Lampeter › Get to know… Swansea
Skills & Employability skills Skills Development cyfleoedd Ffordd o Fyw opportunities wellbeing meddylfryd Advice Lifestyle Study Smart work experience lles Inspiration graduates Your Uni Sylw Make Change datblygiad cysylltu connect Gwneud Newid cyngor Datblygiad Sgiliau development cyngor Wellbeing resources Cyngor Instagram mindset jobs Top Tips Lles networking Instagram Eich Prifysgol volunteering career advice Work Opportunities Uncategorized Sgiliau a Cyflogadwyedd Featured Awgrymiadau Gorau

Back to Top

Latest Tweets

  • Nod Wythnos Imiwneiddio'r Byd a ddathlir ym mis Ebrill yw codi sylw ar y cyd-weithrediad sydd ei angen a hyrwyddo'r… twitter.com/i/web/status/1…
    6 hours ago
  • World Immunisation Week, celebrated in April, aims to highlight the collective action needed to promote the use of… twitter.com/i/web/status/1…
    6 hours ago

Trydar Diweddaraf

  • Nod Wythnos Imiwneiddio'r Byd a ddathlir ym mis Ebrill yw codi sylw ar y cyd-weithrediad sydd ei angen a hyrwyddo'r… twitter.com/i/web/status/1…
    6 hours ago
  • World Immunisation Week, celebrated in April, aims to highlight the collective action needed to promote the use of… twitter.com/i/web/status/1…
    6 hours ago

Recent Posts

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Blogiadau Diweddar

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant