Dydd Gŵyl Dewi Sant 2021
Pethau Bychain
23 Chwefror – 7 Mawrth 2021
Cyfle i’r Brifysgol ddod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl Dewi drwy gyfres o ddigwyddiadau rhithiol.
Gobeithiwn yn ystod yr amseroedd anodd hyn y bydd y digwyddiadau yr ydym wedi’u cynllunio yn arddangos y gorau o’n diwylliant a’n doniau yn UWTSD.
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen digwyddiadau Pethau Bychain.
Cwis Kahoot Gŵyl Dewi
23 Chwefror – 7 Mawrth 2021
I fyfyrwyr ar y cyd rhwng Yr Atom, Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi.
IAITH FRODOROL? MAMIAITH?
23 Chwefror 2021
Trafodaeth a barddoniaeth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO 2021 Digwyddiad cyfrwng Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.
Cynhadledd ‘Llais y Plentyn’
24 Chwefror 2021 1yp – 4yp
Cynhadledd Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a’r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Rhith-Noson Agored, Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg
25 Chwefror 2021 – 7.30yh
Rhith-Noson Agored, Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg. Cyflwyniad i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a sesiynau blasu.
Cystadleuaeth Pice ar y Maen Y Gym Gym
26 Chwefror – 1 Mawrth 2021
Cystadleuaeth Pice ar y Maen Y Gym Gym – Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr PCYDDS Cyflwynwch eich lluniau o’ch piciau ar y maen er mwyn cael y cyfle i ennill £25 i’w wario yn Croeso Cynnes.
Cornel Creu
27 Chwefror 2021 – 10.30yb – 11.30yb
Awr o weithgaredd crefft mewn cydweithrediad a Menter GSG ar gyfer plant y cyfnod sylfaen. Cofrestrwch drwy e-bostio Alma@mgsg.cymru Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Dangosiad o ‘Un’ gan BA Perfformio
28 Chwefror 2021 – 7.30yh
Cynhyrchiad gan fyfyrwyr cwrs BA Perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ‘Un’ yn sioe a gafodd eu chreu’ arbennig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf y cwrs i’w pherfformio’n ddigidol. Yn dilyn llwyddiant y dangosiad cyntaf fel rhan o arlwy Eisteddfod Amgen 2020, dyma gyfle arall i fwynhau’r sioe.
Perfformiad cyfrwng Cymraeg
Lansio her ‘Cerdded Cymru i Gicio’r Clo’
1 Mawrth 2021 – 10yb
Her i staff, myfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol i gerdded pellter cyfwerth ag arfordir Cymru yn ystod Mis Mawrth drwy gofnodi’r pellter yma.
#hercerddedydrindod21
Cysylltwch â Huw Thomas, Yr Athrofa Iechyd a Rheolaeth am fwy o wybodaeth: h.thomas1@uwtsd.ac.uk
Lansiad adnodd Profion Ffitrwydd yr Athrofa Iechyd a Rheolaeth PCYDDS a’r CCC
1 Mawrth 2021 – 11yb
Cyfres o adnoddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynorthwyo myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym maes chwaraeon wrth ymgymryd â phrofion iechyd a ffitrwydd. Bydd yr adnoddau o ddefnydd i fyfyrwyr ar draws Prifysgolion Cymru yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio Chwaraeon fel pwnc mewn Colegau Addysg Bellach ac Ysgolion.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg. Dolen ar gael yn fuan.
Gwasanaeth Gŵyl Dewi
1 Mawrth 2021 12.30yp
Gwasanaeth rhithiol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Estynnir croeso cynnes i holl deulu’r Brifysgol, yn staff, myfyrwyr a chyfeillion. Bydd modd i chi ymuno yn y dathliad trwy’r cyswllt canlynol: Dolen ar gael yn fuan.
Sesiwn flasu cyrsiau Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg
1 Mawrth 2021 – 1.30yp
Cyfle i gael blas ar gyrsiau plentyndod, ieuenctid ac astudiaethau addysg dros sgwrs anffurfiol. Ymunwuch â ni am 1.30yp ar Mawrth 1af, cofrestrwch drwy e-bostio: Glenda Tinney G.Tinney@uwtsd.ac.uk
Darlith Flynyddol a Gwobrau Coleg Celf Abertawe gyda’r siaradwr gwadd Huw Rees
1 Mawrth 2021 – 4yp
Sesiwn ffitrwydd coch, gwyn a gwyrdd
2 Mawrth 2021 – 12yh
Sesiwn ffitrwydd – Ymarfer heriol ond cyraeddadwy sy’n hygyrch i bawb.
Mae addasiadau wedi’u recordio ymlaen llaw ar gyfer pob symudiad. Mae’n bwysig eich bod chi’n gwylio’r rhain cyn y sesiwn fyw ac yn dewis yr un y gallwch chi ei pherfformio gyda’r dechneg gywir ac am rhwng 10-15 cam heb orffwys.
Cynheswch am 5-10 munud cyn y sesiwn (cerdded, rhedeg, beic, rhes ac ymestyn deinamig ac ati)
Ymgynhhorwchi â meddyg teulu os ydych chi’n ansicr ynghylch addasrwydd yr ymarferion yn y fideo hwn.
Hyfforddwr: Kirsty Edwards o Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru (WAHPL)
Digwyddiad dwyieithog. Cofiwch wisgo coch, gwyn a / neu wyrdd.
Lansiad Rhithiol Modiwl ‘Troi’r Trai mewn Tri Deg Mlynedd’
2 Mawrth 2021 – 4yp
Parti gwylio i lansio adnodd a grëwyd gan Ragoriaith a chwmni Optimwm, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n annog myfyrwyr i barhau i astudio’r Gymraeg fel pwnc (a/neu drwy gyfrwng y Gymraeg) ydy’r modiwl, gyda chyfle i ddefnyddwyr ymweld â gwahanol leoliadau a dysgu am bwysigrwydd sgiliau Cymraeg.
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg.
Cyngerdd Gŵyl Dewi
4 Mawrth 2021 – 7.30yh
Myfyrwyr o Ganolfan Berfformio Cymru a WIAV yn dathlu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru yng nghwmni aelodau o’r British Sinfonietta. Cyfarwyddwr Cerdd Eilir Owen-Griffiths.
Antur Yr Egin
5 Mawrth – 7 Mawrth 2021
Mae’r Egin yn gyffrous iawn i gyflwyno am y tro cynta’ erioed gŵyl ffilmiau Antur : Yr Egin.
Dathliad yw’r ŵyl o ffilmiau awyr agored sy’n ysbrydoli, arddangos rhyfeddodau natur ac wrth gwrs tanio’r adrenalin. Bydd yn gyfle i wylio ffilmiau o Gymru a llefydd anhygoel eraill a chlywed gan y rhai o flaen a thu ôl y camera.
47 Copa, ffilm enillodd y wobr am Ffilm Antur Orau yng Ngŵyl Ffilm Mynydda Llundain bydd yn cychwyn y cyfan ar nos Wener 5 Mawrth, gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwyr i ddilyn.
Yn ystod y penwythnos bydd yna sesiynau gyda phanelwyr profiadol yn rhannu cyngor a chyfrinachau, cyfle i weld ffilmiau cyffrous gwneuthurwyr ifanc ac i chi eistedd nôl ac edmygu’r golygfeydd.
Tocynnau : https://yregin.cymru/ Cefnogwyd yr ŵyl gan Ffilm Cymru.