• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
E-byst Gwe-rwydo a Sbam

Tweet

Gwe-rwydo yw’r enw a roddir ar yr arfer o anfon e-byst sy’n honni dod oddi wrth gwmni neu sefydliad go iawn sy’n gweithredu ar y Rhyngrwyd.  Ceisia’r e-bost dwyllo’r sawl sy’n ei dderbyn i gyflenwi gwybodaeth gyfrinachol, megis manylion cerdyn credyd neu fanylion banc.  Mae’r dolenni sydd yn y neges yn rhai ffug, ac yn aml maent yn ail-gyfeirio’r defnyddiwr at wefan ffug.

Gall llawer o e-byst ffug edrych yn argyhoeddiadol iawn, ac maent yn cynnwys logos cwmnïau a dolenni sy’n ymddangos fel petaent yn mynd â chi ymlaen at wefan y cwmni, er bydd hon hefyd yn ffug.

Yn ddiweddar mae nifer o brifysgolion yn y DU, yn ein cynnwys ni, wedi cael eu targedu gydag e-byst “sgâm gwe-rwydo”.  Mae’r rhain ar ffurf e-byst sy’n ymddangos eu bod yn llawn gwybodaeth, a’u bod yn dod o dîm cymorth Prifysgol neu Ddesg Wasanaeth ac maent yn gofyn am wybodaeth ynghylch enw defnyddiwr a chyfrinair.

Mae’r canlynol i gyd yn sgamiau gwe-rwydo cyffredin:

  1. E-bost sy’n gofyn i chi nodi gwybodaeth bersonol, megis enw defnyddiwr, cyfrinair, manylion cyfrif banc neu rif Yswiriant Gwladol ar ffurflen yn yr e-bost.
  2. E-bost sy’n honni ei fod oddi wrth sefydliad y mae gennych chi gyfrif gydag ef, ac mae’n dechrau ‘Dear valued customer’ yn lle defnyddio’ch enw.
  3. Mae cynnwys yr e-bost yn frawychus neu’n fygythiol ei natur, megis ‘Atelir eich cyfrif oni nodwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair’.
  4. E-bost sy’n gofyn i chi glicio ar ddolen a nodi gwybodaeth bersonol ar ffurflen ar y wefan y’ch arweinir chi ati trwy’r ddolen honno.
  5. Ystryw arall yw anfon cadarnhad ffug atoch am archeb nad ydych wedi’i gwneud, gan ofyn i chi nodi manylion eich cerdyn credyd os ydych yn dymuno canslo’r archeb.

Yn aml mae cliwiau a allai eich helpu i sylweddoli bod yr e-bost yn un ffug:

  1. Mae cyfeiriad ateb yr e-bost yn wahanol i gyfeiriad yr anfonwr.  Peidiwch ag edrych ar yr enw arddangos yn unig – edrychwch ar y cyfeiriad oddi tano neu darged y ddolen e-bost.
  2. Gellir ffugio cyfeiriad e-bost yr anfonwr, felly hyd yn oed os yw’n ymddangos yn ddilys nid yw hynny’n golygu bod yr e-bost yntau’n un dilys. Oherwydd na fydd y sgamwyr yn gallu codi ymatebion sy’n mynd i gyfeiriad dilys, yn lle hynny byddant yn cynnwys cyfeiriad gwahanol yng nghorff yr e-bost a gofyn i chi anfon eich manylion yno.
  3. Mae’n bosibl y bydd y cyfeiriad ateb (a chyfeiriadau eraill) yn defnyddio gwasanaeth gwe-bost sydd ar gael i’r cyhoedd, megis hotmail.com neu gmail.com.  Gall unrhyw un ddechrau cyfrifon e-bost o’r fath, ond ni fyddai unrhyw reswm i gwmni cyfreithlon wneud hynny – bydd eisoes wedi talu am ei enw parth a’i gyfleusterau e-bost ei hun.
  4. Gall ymddangos bod cyfeiriad y wefan ffug yn debyg i’r hyn y disgwyliech iddo fod, ond nid yw’r enw parth yn cyfateb i’r un swyddogol a gofrestrir gan y sefydliad. Er enghraifft, prif barth cofrestredig Banc Barclay yw barclays.co.uk, ond gallai e-bost gwe-rwydo arwain at gyfeiriad megis barclays.biginternetbanks.com. Byddai’r sgamwyr wedi cofrestru biginternetbanks.com a’i ffurfweddu i gynnal eu his-barthau a’u gwefannau ffug eu hun.
  5. Yn aml nid yw safon y Saesneg ysgrifenedig yn dda iawn.

Mae’r cyngor ar gyfer osgoi’r sgamiau gwe-rwydo hyn yn syml iawn:

  1. Dilëwch unrhyw e-byst sy’n dangos nodweddion amheus.
  2. Os oes gennych unrhyw amheuaeth o gwbl mai e-bost go iawn ydoedd, ffoniwch neu cysylltwch fel arall â’r sefydliad i ofyn iddynt a wnaethant anfon yr e-bost hwn atoch. Fodd bynnag, peidiwch â gwneud hyn trwy ymateb i’r e-bost amheus.

Os cewch e-bost sy’n gofyn i chi roi manylion mewngofnodi peidiwch ag ymateb iddo, ond anfonwch yr e-bost fel atodiad i ITServiceDesk@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch y Ddesg Wasanaeth ar est. 5055 (0300 500 5055 yn allanol).

Cofiwch na fydd y Ddesg Wasanaeth TG byth yn anfon e-bost atoch sy’n gofyn am eich enw defnyddiwr na’ch cyfrinair. Yn y cyd-destun hwn, peidiwch ag ymateb i e-byst o’r fath; peidiwch â rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani.

Peidiwch â datgelu manylion eich cyfrif defnyddiwr na’ch cyfrinair i unrhyw drydydd parti; chi yn unig ddylai wybod eich cyfrinair.  Os rhoddwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i rywun gall hynny arwain at eich cyfrif e-bost yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu e-byst sbam (gyda’r risg y bydd holl e-byst y Brifysgol yn cael eu rhwystro) a gall ganiatáu iddynt gael mynediad i’ch data ac i ddata’r Brifysgol rydych yn gyfrifol amdanynt, a’u camddefnyddio.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o negeseuon e-byst gwe-rwydo a anfonwyd i gyfeiriadau prifysgol.  Mae’r cliwiau sy’n dangos eu bod yn negeseuon sgâm mewn print trwm.



From: support@uwtsd.ac.uk [mailto:willsk@eircom.eu]
Sent: Thu 05/02/2009 12:36
Subject: Annwyl Ddefnyddiwr student.uwtsd.ac.uk

Annwyl Ddefnyddiwr student.uwtsd.ac.uk

Yn ddiweddar mae’ch cyfrif e-bost wedi’i ddefnyddio i anfon e-byst Sbam niferus o gyfeiriad IP tramor.  Oherwydd hynny, mae student.uwtsd.ac.uk wedi cael cyngor i atal eich cyfrif.  Fodd bynnag, mae’n bosibl nad chi sy’n hyrwyddo’r Sbam hyn, am ei bod yn bosibl bod rhyw amharu wedi digwydd ar eich cyfrif e-bost. Er mwyn diogelu’ch cyfrif rhag anfon e-byst sbam, dylech gadarnhau mai chi yw perchennog y cyfrif hwn drwy roi’ch enw defnyddiwr gwreiddiol (***********) a’ch CYFRINAIR (*********) fel ymateb i’r neges hon.  Ar ôl derbyn yr wybodaeth y gofynnir amdani, bydd tîm cymorth e-byst “student.uwtsd.a.uk” yn blocio’ch cyfrif rhag y Sbam.


Os na wnewch hyn byddwch yn torri telerau ac amodau student.uwtsd.ac.uk ar gyfer e-byst.  Bydd hyn yn gwneud eich cyfrif yn anweithredol.


Diolch am ddefnyddio student.uwtsd.ac.uk


connect cyngor work experience skills opportunities Sgiliau a Cyflogadwyedd mindset Make Change cysylltu Ffordd o Fyw Datblygiad Sgiliau wellbeing Skills & Employability graduates datblygiad lles Skills Development Inspiration advice Eich Prifysgol Awgrymiadau Gorau Cyngor meddylfryd Lifestyle Work Opportunities Top Tips Lles Advice volunteering cyfleoedd Study Smart cyngor Instagram resources career Gwneud Newid Featured development Uncategorized Your Uni jobs Wellbeing Sylw Instagram networking

Related Posts

Cymorth gyda LinkedIn

Instagram /

Cymorth gyda LinkedIn

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Eich Prifysgol /

SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)

Cymerwch reolaeth ar eich adolygu

Awgrymiadau Gorau /

Cymerwch reolaeth ar eich adolygu

‹ Email Phishing & Spam › Don’t miss out on your Student Finance
Your Uni Cyngor advice Top Tips Make Change Advice connect Instagram meddylfryd Awgrymiadau Gorau wellbeing skills Gwneud Newid Sgiliau a Cyflogadwyedd cyfleoedd Wellbeing cyngor opportunities Sylw Skills Development Skills & Employability Featured Work Opportunities development Lles Study Smart mindset graduates Instagram Lifestyle Inspiration networking resources datblygiad Datblygiad Sgiliau cyngor Uncategorized Ffordd o Fyw jobs career work experience lles cysylltu Eich Prifysgol volunteering

Back to Top

Latest Tweets

  • Cynhelir Diwrnod Canser y Byd bob 4 Chwefror. Wedi’i greu yn y flwyddyn 2000, mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i… twitter.com/i/web/status/1…
    12 hours ago
  • World Cancer Day is held every 4 February. Created in the year 2000, World Cancer Day has grown into a positive mo… twitter.com/i/web/status/1…
    12 hours ago

Trydar Diweddaraf

  • Cynhelir Diwrnod Canser y Byd bob 4 Chwefror. Wedi’i greu yn y flwyddyn 2000, mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i… twitter.com/i/web/status/1…
    12 hours ago
  • World Cancer Day is held every 4 February. Created in the year 2000, World Cancer Day has grown into a positive mo… twitter.com/i/web/status/1…
    12 hours ago

Recent Posts

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Blogiadau Diweddar

  • Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
  • Announcing: Global Entrepreneurship Week 2021
  • AMSERLEN GWEITHDY’R GWASANAETH GYRFAOEDD
  • CAREERS SERVICE WORKSHOP SCHEDULE
  • SoCom (Grŵp Cymorth Anawsterau Cymdeithasol a Chyfathrebu)
  • SoCom (Social and Communication Difficulties Support Group)
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019/20

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant