Mae SoCOM (Grŵp Cymorth Cymdeithasol a Chyfathrebu) yn cynnal gweithgareddau o bell (ar-lein) a gall unrhyw fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant eu mynychu.
Mae SoCom yn cynnig syniadau a gweithgareddau gyda’r nod o annog mwy o hunan-barch, a’r gallu i ddeall ac ymdopi â materion sy’n gysylltiedig ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, gyda’r potensial i ddatblygu grŵp ffrindiau a rhwydwaith cymorth newydd.
Beth sy’n digwydd yn y sesiynau
Bydd y nosweithiau dysgu a gweithgareddau rhyngweithiol yn seiliedig naill ai ar brofiadau a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, neu ar strategaethau hunan-barch a llesiant.
Rydym yn gweithio ar ddatblygu strategaethau ar gyfer lles y meddwl a’r corff, gan edrych ar ffyrdd ‘ymwybodol ofalgar’ o ymdopi, sut i hybu atgyrchedd personol er mwyn ennill gwell dealltwriaeth ohonoch eich hun a phobl eraill, a phwysigrwydd hunan-feithrin ar gyfer hapusrwydd a llwyddiant.
Caiff y rhain sylw trwy:
- trafodaethau,
- dysgu strategaethau’n rhyngweithiol,
- rhannu profiadau a gwybodaeth, a
- digwyddiadau cymdeithasol / rhyngweithiol.
Sut galla i gymryd rhan?
Cynhelir y sesiynau ar nos Lun 7:00-9:00pm (rhwng 4 Ionawr a 7 Mehefin 2021). I gofrestru a chael mwy o wybodaeth cysylltwch â Mel Long.
Mae amserlen y sesiynau ar gael isod
Amserlen
-
SESIWN CYFLWYNIAD BLWYDDYN NEWYDD
Ailadrodd cyflwyniadau, cynnwys, nodau ac amcanion y grŵp.
Perchenogi SoCom; trafodaeth am syniadau ar gyfer sesiynau’r dyfodol.
THREFNU’CH HUN
Sut i ddatblygu rheolaeth amser, a defodau.
- TRAFOD: Strategaethau ar gyfer rheoli amser, gwaith a thasgau dyddiol/wythnosol eraill y mae eu hangen er mwyn cadw’n iach a lleihau straen.
GWEITHGAREDD: Offer ar gyfer cynllunio a chymryd nodiadau.
-
STRATEGAETHAU ANXIETI PERFFORMIAD
Datblygu strategaethau i leihau pryder a hyrwyddo lles ar adegau o straen.
- TRAFODAETH: offer paratoi, ynghyd â strategaethau ar gyfer cadw’n dawel a rheoli wrth ymwneud ag arholiadau, cyfweliadau, cyflwyniadau, gwaith tîm a pherfformiadau.
GWEITHGAREDD: Ymwybyddiaeth Ofalgar o ymarfer cerdded, ynghyd â syniadau tawelu nerfau cyn-berfformiad eraill.
-
CYFLWYNIADAU
Datblygu sgiliau gwrando a chyfathrebu a hybu hyder trwy gefnogi eraill i gyflwyno eu syniadau.
- TRAFODAETH: strategaethau cyflwyno a gwrando
- TRAFODAETH: y gwahaniaeth rhwng mathau o feirniadaeth.
- GWEITHGAREDD: rhoi theori ar waith. Dywedwch wrth y grŵp am ddiddordeb, eitem neu gasgliad sydd gennych sy’n eich gwneud chi’n bositif / hapus. Bydd y grŵp yn rhoi adborth ar eich sgiliau cyflwyno, yn ystyried y gwahaniaeth rhwng cynnwys cadarnhaol a beirniadaeth cyflwyniad a beirniadaeth negyddol wedi’i phersonoli.
TRAFODWCH: Strategaethau / syniadau i helpu yn y dyfodol.
-
NOSON FFILM
Ffilm: “The King’s Speech” (ar gael ar Netfilx).
Mae’n haws datblygu a deall atgyrchedd trwy arsylwi ar bobl eraill.
Cewch chi ddod â hobïau neu ddefnyddio crefftau a theganau’r grŵp wrth wylio’r ffilm, yn enwedig os yw eich cyfnod canolbwyntio’n fyr.
TRAFOD: Pa mor bosibl gyda strategaethau a phenderfyniad i oresgyn pryder perfformiad.
-
GWAITH TÎM A SGILIAU NEGODI
Datblygu dealltwriaeth o Rannu, Negodi, Hunanymwybyddiaeth, Sgiliau Sgwrsio ac Osgoi Ymddygiad Gormesol a Hunanol ynoch eich Hun ac mewn Eraill.
TRAFOD: sut i negodi, rhannu, bod yn deg, gwrando, eich hyrwyddo eich hun a pherfformio mewn grŵp.
-
YMWYBYDDIAETH OFALGAR GYDA GEIRIAU (Noson grefftau)
Datblygu dealltwriaeth o eiriau, eu defnydd a’u camddefnydd a’u grym cadarnhaol.
- TRAFOD: Priodoleddau, grym a gallu dinistriol geiriau.
- GWEITHGAREDD: Arfer ymwybyddiaeth ofalgar ar sut i ddefnyddio geiriau disgrifiadol i wella CVs a datblygu datganiad personol.
GWEITHGAREDD: Creu collage o eiriau cadarnhaol i greu cerdd neu fantra.
-
CERDDORIAETH I’R COF, EICH HWYLIAU A’CH YMWYBYDDIAETH OFALGAR
Datblygu dealltwriaeth o’r modd y gall sain, yn brofiad synhwyraidd, gefnogi dysgu a lles.
- TRAFOD: Sut mae sain yn effeithio arnoch.
- GWEITHGAREDD: Ymwybyddiaeth ofalgar o sain
- TRAFOD: Sut y gall cerddoriaeth helpu’r cof a ffocysu’r dysgu.
- GWEITHGAREDD: Gwrando ar gerddoriaeth, i ffocysu’r meddwl, helpu’r cof, ymlacio
- TRAFOD: Sut y gall cerddoriaeth dawelu meddyliau a helpu’r meddwl i ymlacio.
- TRAFOD: defnyddio clustffonau’n gadarnhaol i ddileu synau sy’n mynd â’ch sylw, canolbwyntio’r meddwl, teimlo’n ‘ddiogel’ (wedi’ch dal gan y pwysau/wedi eich cloi yn eich byd eich hun).
-
NOSON FFILM
Ffilm: “Eurovision Song Contest: The Story of Fire Saga” (ar gael ar Netfilx).
Mae’n haws datblygu a deall atgyrchedd trwy arsylwi ar bobl eraill.
Cewch chi ddod â hobïau neu ddefnyddio crefftau a theganau’r grŵp wrth wylio’r ffilm, yn enwedig os yw eich cyfnod canolbwyntio’n fyr.
TRAFOD: Sut y gall cerddoriaeth a nwydau personol eraill eich helpu i gamu allan o’ch parth cysur ac estyn am eich gobeithion a’ch breuddwydion
-
BWLIO, GEMAU PEN, A CHWARAE TRICIAU MEDDYLIOL (‘GASLIGHTING’)
Datblygu dealltwriaeth o gyfnewid grym, sut i ymddwyn mewn modd iach, cytbwys a sut i wybod pryd nad yw hi felly ar bobl eraill; eich cadw eich hun yn ddiogel.
- TRAFOD: Sut mae cyfnewidiadau pŵer yn digwydd a pham mae pobl yn datblygu strategaethau o’r fath
- Sut i osgoi fod yn destun bwlio, neu achosi bwlio
- Sut i fod yn gadarnhaol, a chydnabod agweddau positifiaethol mewn pobl eraill
Sut i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach.
-
OSGOI A DATRYS GWRTHDARO
Datblygu strategaethau ar gyfer osgoi gwrthdaro a sut i ddatrys problemau os byddant yn digwydd.
Ystyried sut i ymdrin ag anghytuno neu gamddealltwriaeth sy’n creu gofid a sut i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.
- GWEITHGAREDD: gwylio enghreifftiau o senarios llawn straen a sut i ymdrin â nhw.
- Eich atal eich hun rhag neidio i gasgliadau; sut mae sefyllfa o wrthdaro yn digwydd; effaith ymatebion emosiynol; ceisio cymorth ac ymdrin â straen; dehongli sefyllfaoedd a phriodoldeb ymatebion.
TRAFOD: Profiadau personol a rhannu strategaethau.
-
THREFNU’CH HUN
Sut i ddatblygu rheolaeth amser, a defodau iach.
- TRAFOD: Strategaethau ar gyfer rheoli amser, gwaith a thasgau dyddiol/wythnosol eraill y mae eu hangen er mwyn cadw’n iach a lleihau straen.
GWEITHGAREDD: Offer ar gyfer cynllunio a chymryd nodiadau.
-
CYFWELIADAU, A CHYFATHREBU SWYDDOGOL
Datblygu galluoedd ar gyfer cyfathrebu swyddogol neu academaidd a hunan-eiriolaeth.
- TRAFOD: gwahanol fathau o gyfathrebu swyddogol a’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r rhain.
- TRAFOD: strategaethau cyfweld
- GWEITHGAREDD: llenwch y proffil pen personol i dynnu sylw’ch cryfderau at gyflogwr ac i ddangos yr hyn y gallai fod angen help arnoch chi neu y mae angen i bobl eraill rydych chi’n gweithio gyda nhw wybod.
TRAFOD: unrhyw feddyliau neu gwestiynau sydd gennych chi am y rhain.
-
GWNEUD CAIS AM SWYDDI A LLUNIO CVs
Datblygu sgiliau ar gyfer chwilio am swyddi a’r broses ymgeisio.
- GWEITHGAREDD: Datblygu eich CV eich hun. Ymarfer llenwi ffurflenni cais.
TRAFOD: Geiriau cadarnhaol i ddangos sgiliau trosglwyddadwy.
-
SGILIAU PERFFORMIO YMARFEROL
Datblygu sgiliau ar gyfer gwella perfformiad.
Defnyddio hiwmor a sbri yn eich agwedd ac yng nghynnwys eich cyflwyniadau.
- GWEITHGAREDD: Datblygu strategaethau ar gyfer gwella perfformiad, trwy safbwynt positifiaethol tuag atoch eich hun a’ch sgiliau.
- TRAFOD: profiadau a syniadau am gyflwyniadau.
- Ystyried sut mae hyn yn effeithio ar ddatblygu agwedd gadarnhaol at orffen aseiniadau.
- GWEITHGAREDD: Ymwybyddiaeth Ofalgar o Feddwl a Theimlo
-
POSITIFRWYDD
Datblygu strategaethau i oresgyn negatifrwydd a chwalfeydd a hyrwyddo arfer cadarnhaol cynaliadwy.
Ystyried llesiant personol ac arfer cadarnhaol i ddatblygu lefel uwch o hapusrwydd. Archwilio sut gall strategaethau ac offer helpu hunan-gred, gan gynyddu’r gallu i anelu at nodau yn y dyfodol a’u cyflawni.
- GWEITHGAREDD: Patrwm ymarfer corff dyddiol cyflym. Myfyrio Ymwybyddiaeth Ofalgar- Meta Barvna (Caredigrwydd Cariadus), i annog datblygu perthnasoedd cadarnhaol.
- TRAFOD: Theori’r Meddwl (eich deall eich hun ac eraill). Emosiynau ac ymddygiadau negyddol (unigrwydd, dryswch, esgeulustod, sbardunau emosiynol, chwalfeydd, ac ati).
Sut i ddatblygu positifrwydd (ar gyfer agwedd cwpan hanner llawn, i ddilyn a chyflawni nodau, prosesu ymddygiad yr hunan ac eraill, a datblygu a chynnal perthnasoedd iach).
-
GWELEDIGAETHAU’R DYFODOL (Noson Grefftau – Byrddau Gweledigaethau)
Datblygu offer synhwyraidd gweledol i helpu positifrwydd ar gyfer cynlluniau a breuddwydion y dyfodol. Defnyddio creadigrwydd i hyrwyddo llesiant.
- TRAFOD: Gobeithion, breuddwydion a disgwyliadau’r dyfodol, a’r manteision a ddaw i’ch rhan trwy wirfoddoli.
GWEITHGAREDD: Llunio darn creadigol sy’n canolbwyntio ar safbwyntiau cadarnhaol.
-
NOSON FFILM
Ffilm: “Oh Brother, Where Art Thou?” (ar gael ar Netfilx).
Mae’n haws datblygu a deall atgyrchedd trwy arsylwi ar bobl eraill.
Cewch chi ddod â hobïau neu ddefnyddio crefftau a theganau’r grŵp wrth wylio’r ffilm, yn enwedig os yw eich cyfnod canolbwyntio’n fyr.
TRAFOD: sut y gall gobeithion a breuddwydion oresgyn pob math o bethau!
-
YMDRIN Â THERFYNIADAU A NEWID
Atgyfnerthu’r holl strategaethau blaenorol a’u defnyddio yn y dyfodol ar gyfer positifrwydd parhaus.
- TRAFOD:
- sut i ddatblygu positifrwydd ynghylch newid.
- Defnyddioldeb defodau a chyfrifoldebau.
- Cynnal hunan gymhelliant er mwyn rhoi sylw i draethawd hir dros yr haf, gwneud cais am swyddi, newid lleoliad.
Datblygu defodau newydd a strategaethau eraill yn y dyfodol.
GWEITHGAREDD: creu cynllun ar gyfer y tymor byr (Taflen Gobeithion a Breuddwydion)
-
STRATEGAETHAU AM Y DYFODOL
Gan ail-afael yn y strategaethau a’r offer a ddysgwyd dros y flwyddyn a sut y gellir eu trosglwyddo i’r dyfodol
Ailedrych ar:
- Strategaethau trefnu
- Rhestrau i’w gwneud ar gyfer cadw ar ben pethau
- Strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli amser
- Sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle (gwaith grŵp, cyflwyniadau, cyfathrebu, proffil personol)
- Strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer lles (perthnasoedd, toddi, ac ati)
Strategaethau ysgogol (byrddau gweledigaeth, defnydd tymor hir o weithgaredd gobeithion a breuddwydion)
-
SESIWN i GLOI: SYMUD YMLAEN
Cadarnhau cymorth grŵp ar gyfer amseroedd ar wahân ac adfyfyrio’n gadarnhaol ar ‘newid’.
GWEITHGAREDD: creu eich datganiadau eich hun, ac offer eraill i annog positifrwydd ynghylch newid.