• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
Adnoddau Gyrfaol

Adnoddau Gyrfaol

Tweet

Yn PCYDDS rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad personol a phroffesiynol ein myfyrwyr, ac yn eich annog i fod mor ragweithiol ac ysgogol ag sy’n bosib wrth i chi ddilyn gyrfa’ch breuddwydion. Mae sawl ffordd i chi roi hwb i’ch cyflogadwyedd ar yr un pryd â gwneud eich astudiaethau – does dim angen i hynny aros tan ar ôl i chi raddio, ac mae’r cyfan yn dechrau drwy wneud y gorau o’r cyfleodd sy ar gynnig.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, peidiwch â chynhyrfu. Gall yr adnoddau hyn eich helpu i ddarganfod pa fath o gyfleoedd sy ar gynnig. Os oes angen cymorth pellach arnoch, mae croeso bob amser i chi gysylltu â’n Gwasanaeth Gyrfaoedd pwrpasol.

Prospects

Mae Prospects yn llwyfan ar-lein a luniwyd gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd sy’n arbenigo mewn gyrfaoedd i raddedigion. Maent yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor a chyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion.

Yn ogystal â gallu chwilio am brentisiaethau, swyddi i raddedigion, interniaethau a chyrsiau ôl-raddedig, mae gyda nhw gyngor gyrfaoedd a ysgrifennwyd gan ymgynghorwyr proffesiynol arbenigol, yn ogystal ag ystod o arfau wedi eu teilwra megis eu cynllunydd gyrfaoedd, sy’n paru’ch sgiliau a’ch diddordebau gyda phroffiliau swyddi sy’n eich siwtio.

Drwy weithio’n agos â busnesau maent yn gwneud yn siŵr eich bod yn datblygu’r sgiliau a’r profiadau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt, ac maent yno i’ch tywys drwy bob cam o daith eich gyrfa gyda chyngor gonest ac arbenigol.

Mae gyda ni gyngor gwych ar ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol, neu gyngor ar gyfweliadau

Cewch hefyd greu cyfrif gyda Prospects i bersonoli’r wybodaeth a dderbyniwch a sicrhau mai chi fydd y cyntaf i glywed am gyfleoedd.

Mae’r llwyfan yn rhad ac am ddim ac yn adnodd gwych ar gyfer eich holl ofynion gyrfaol, felly p’un ai a ydych ond yn dechrau meddwl am eich dewisiadau gyrfaol, neu’n dechrau chwilio am swyddi – edrychwch beth sy ar gael!

GO Wales

Mae Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith Go Wales yn anelu i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwella eich siawns o gael swydd gynaliadwy ar lefel raddedig ar ôl i chi adael y brifysgol.

Drwy gymryd rhan byddwch yn derbyn cymorth un-i-un oddi wrth ymgynghorydd a fydd yn gweithio gyda chi i chwilio am y dewisiadau gorau ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith.

Mae’r lleoliadau wedi’u cynllunio i chi, a bydd eich cynghorydd yn trefnu profiad gwaith sydd yn gweddu i’ch bywyd, eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau eraill, ac sydd yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau.

Gall y profiad gwaith hwnnw olygu cysgodwaith, blas ar waith neu gyfle am leoliad gwaith yn dibynnu ar y sefydliad.

Gwelwch yma a ellwch fod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen

Os hoffech siarad ag ymgynghorydd, e-bostiwch gowales@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda

Efallai y bydd modd i chi gael cymorth gyda chostau teithio, costau cefnogi a chostau gofal plant er mwyn gallu fforddio cwblhau profiad gwaith.

LinkedIn

Mae LinkedIn yn llwyfan ar-lein gwych ac yn llawer mwy na CV ar-lein yn unig.

Gyda dros 575 miliwn o bobl yn defnyddio LinkedIn ar draws y byd, a chwmnïau recriwtio yn chwilota’r llwyfan am ymgeiswyr addas, byddwch yn dechrau gofyn i’ch hunan pam nad ydych wedi gosod eich proffil eto.

P’un ai a ydych yn gosod eich proffil o’r newydd neu’n ceisio gwella’ch proffil, chwiliwch am ein cyngor gorau yma.

Cynlluniau i Raddedigion

Gall cynlluniau i raddedigion fod yn gyfleodd gwych i chi brofi agweddau gwahanol ar gwmni, a’ch rhoi yn y farchnad waith i raddedigion yn syth ar ôl y brifysgol. Dyma rai o’n syniadau gorau os ydych yn ystyried ymgeisio ar gyfer cynllun i raddedigion:

  1. Dechrau’n gynnar – mae cynlluniau i raddedigion yn aml yn agor yn gynnar yn y flwyddyn academaidd e.e. Hydref/Tachwedd, felly bydd angen i chi ymgeisio’n gynharach nag rydych yn ei feddwl
  2. Gwneud eich ymchwil – edrychwch i mewn i’r cwmni cyn ymgeisio i gael gweld beth maent yn gofyn amdano yn nhermau cymwysterau a phrofiad. Oherwydd y nifer uchel o geisiadau maent yn eu derbyn, mae’n annhebygol yr ewch heibio i gam cyntaf y broses os na chwrddwch â’r meini prawf.
  3. Paratoi – mae pob cynllun i raddedigion yn wahanol ac mae rhai yn gofyn i chi gwblhau profion tueddfryd fel rhan o’r broses. Er y gall meddwl am y rhain godi ofn, gallwch fynd yn bell gydag ymchwil ac ymarfer.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda’ch ceisiadau, cofiwch fod Gwasanaeth Gyrfaoedd PCYDDS yma i chi


Adnoddau Cyffredinol
www.indeed.co.uk www.jobs.ac.uk
www.fish4jobs.co.uk www.monster.co.uk
www.jobsword.co.uk www.jobswales.co.uk
www.jobsinwales.com www.totaljobs.com
www.jobsite.co.uk www.uk.jobted.com
www.careerbuilder.co.uk www.reed.co.uk
www.agencycentral.co.uk www.linkedin.com
Graddedigion
www.prospects.ac.uk www.indeed.co.uk
www.targetjobs.co.uk www.milkround.com
www.gradplus.com www.postgrad.hobsons.com
www.graduate-jobs.com www.graduaterecruitmentbureau.co.uk
www.thebigchoice.com/Jobs/Graduate www.studentgems.com
www.jobs.theguardian.com www.findamasters.com
www.findamasters.com
Advice volunteering lles Cyngor cysylltu work experience cyngor Your Uni Sylw resources Lles Skills & Employability Sgiliau a Cyflogadwyedd advice career datblygiad Inspiration Top Tips cyfleoedd wellbeing Wellbeing Instagram jobs Uncategorized meddylfryd Ffordd o Fyw Datblygiad Sgiliau development Instagram connect skills mindset Eich Prifysgol Work Opportunities networking Featured Make Change Skills Development Gwneud Newid Awgrymiadau Gorau opportunities cyngor Lifestyle Study Smart graduates

Related Posts

Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Featured /

Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

LinkedIn support

Skills & Employability /

LinkedIn support

Career Resources

Work Opportunities /

Career Resources

‹ Career Resources › Consent
Cyngor connect Featured resources Skills Development meddylfryd Eich Prifysgol Instagram cyfleoedd Study Smart graduates Sylw Lles Instagram Wellbeing work experience Advice Make Change Inspiration Datblygiad Sgiliau Sgiliau a Cyflogadwyedd opportunities Ffordd o Fyw career volunteering development Work Opportunities Uncategorized cyngor skills wellbeing Top Tips Awgrymiadau Gorau jobs lles Gwneud Newid Your Uni Skills & Employability Lifestyle datblygiad advice networking cyngor mindset cysylltu

Back to Top

Latest Tweets

  • We want to hear your thoughts about the Hwb App. Please complete the survey. We will use your feedback to help impr… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago
  • Rydym am glywed eich syniadau am Ap yr Hwb. Cwblhewch yr arolwg. Byddwn yn defnyddio'ch adborth i helpu i wella'r A… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago

Trydar Diweddaraf

  • We want to hear your thoughts about the Hwb App. Please complete the survey. We will use your feedback to help impr… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago
  • Rydym am glywed eich syniadau am Ap yr Hwb. Cwblhewch yr arolwg. Byddwn yn defnyddio'ch adborth i helpu i wella'r A… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago

Recent Posts

  • Dydd Gŵyl Dewi Sant 2021
  • St David’s Day 2021
  • Grŵp SoCOM
  • SoCOM Group
  • Cymorth gyda LinkedIn
  • LinkedIn support
  • Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Blogiadau Diweddar

  • Dydd Gŵyl Dewi Sant 2021
  • St David’s Day 2021
  • Grŵp SoCOM
  • SoCOM Group
  • Cymorth gyda LinkedIn
  • LinkedIn support
  • Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant