• Contact
  • Contact
Links
UWTSD StudentsUWTSD Students
  • Advice
    • Student Guides
    • Top Tips
    • Your Uni
    • Study Smart
  • Lifestyle
    • Green Living
    • Equality
    • Wellbeing
    • Inspiration
    • Make Change
  • Skills & Employability
    • Volunteering
    • Skills Development
    • Life Design
    • Work Opportunities
  • Guest Posts
Meddylfryd Arholiadau

Meddylfryd Arholiadau

Tweet

Gydag arholiadau ar y gorwel, rydym ni wedi casglu awgrymiadau a syniadau i’ch helpu i gael meddylfryd iach ar gyfer yr arholiadau.

Gofalwch am eich iechyd a’ch lles

Waeth faint byddwch chi’n adolygu, os nad ofalwch chi am eich lles meddyliol a chorfforol, bydd hynny’n cael effaith niweidiol ar eich canlyniadau.  Dyma adeg i fod yn gydwybodol am eich iechyd.  Bydd cynnal diet cytbwys yn gwneud i chi deimlo’n well amdanoch chi’ch hun, ac yn rhoi i chi’r egni a’r maetholion sydd eu hangen arnoch chi i weithio’n effeithiol.  Mae gwneud newidiadau syml megis dewis bwyta bwydydd grawn cyflawn yn syniad da yn ystod eich arholiadau am eu bod yn rhyddhau glwcos i lif y gwaed yn raddol, gan eich helpu i weithio a chanolbwyntio am gyfnodau hirach o amser.  Yn yr un modd, mae bwyta cnau neu bysgod dŵr oer megis tiwna neu eog yn ffynhonnell â llawer o asidau amino a fydd yn gwella’ch gallu i adolygu’n effeithlon.  Ar ddiwrnod eich arholiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael brecwast maethlon sy’n eich llenwi.  I gael ryseitiau a syniadau iach, edrychwch yma.

Mae aberthu’ch cwsg drwy weithio drwy’r nos yn wrthgynhyrchiol a gall gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.  Ceisiwch gael rhwng 8 a 10 awr o gwsg er mwyn eich cadw’ch hun yn yr hwyliau gorau.  Mae angen i chi orffwys er mwyn prosesu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.  Os cewch anhawster i gysgu, ystyriwch ap sŵn gwyn i rwystro ymyriadau a lleihau straen neu rhowch gynnig ar rhai o’n hadnoddau llesiant.

Mae cymryd hoe o’r adolygu i fynd am dro a chael awyr iach yn ffordd wych o ofalu am eich lles yn ystod y cyfnod hwn sy’n llawn straen.  Bydd cerdded yn clirio’ch pen a byddwch chi’n teimlo eich bod wedi dadflino ac yn gallu canolbwyntio’n well pan ewch yn ôl ati i astudio.  Yn y Drindod Dewi Sant, rydym ni’n ffodus bod rhai o olygfeydd mwyaf godidog y DG o’n cwmpas ni ac mae digon at ddant pawb pan ddaw i ddewis llwybrau cerdded.  Chwiliwch am rywbeth sy’n addas i chi yma.

Profwyd bod gwneud ymarfer corff cyn arholiad yn hybu’r cof.  Os ydych chi’n byw’n agos, efallai yr hoffech chi ystyried cerdded i gampws y Brifysgol ar ddiwrnod eich arholiad.  Bydd yn eich helpu chi i ganolbwyntio’ch meddyliau, a byddwch chi wedi ymlacio’n fwy.

Cofiwch gymryd hoe yn aml a mwynhau’ch hun. Mae meddu ar feddylfryd iach, cadarnhaol a bod wedi ymlacio’n amhrisiadwy yn ystod y cyfnod hwn, ac effallai rhoi cynnig ar un o’r podlediadau rydym yn eu hargymell wrth i chi adfywio ac ailwefru

Gwnewch yn siŵr eich bod yn drefnus

Mae bod yn drefnus yn hollbwysig wrth adolygu ar gyfer arholiadau.  Bydd eisiau i chi gadw’ch nodiadau mewn trefn a’ch lle astudio’n daclus o’r dechrau oherwydd gall annibendod fynd dros ben llestri’n hawdd, gan gyfrannu at fwy o straen.  Bydd ei gadw dan reolaeth yn helpu i’ch pen deimlo’n gliriach a byddwch chi’n fwy parod i astudio’n effeithiol. Gall defnyddio platfformau megis OneNote helpu i gadw’ch adolygu’n daclus ac yn drefnus.  Yn hytrach na gorfod defnyddio llawer o bapur, gallwch chi deipio, ysgrifennu neu luniadu’n syth ar yr ap o’ch dyfais.  Hefyd mae’n ffordd wych o gydweithio a rhannu’ch syniadau â’ch cyd-fyfyrwyr.

Mae pethau’n tynnu ein sylw yn hawdd yn ystod cyfnod yr arholiadau, a’r ffordd orau o frwydro yn erbyn hyn yw cael gwared ag ymyriadau. Tynnwch eich sylw o’ch ffôn drwy ei ddiffodd tra byddwch chi’n adolygu.  Os gwelwch chi eich bod yn gwirio’r cyfryngau cymdeithasol yn aml, ystyriwch lawrlwytho ap megis SelfControl (Mac) neu ColdTurkey (Windows).  Bydd y rhain yn eich cadw rhag oedi drwy rwystro’ch mynediad i wefannau ar eich ‘rhestr waharddedig’ ar adegau penodol.  I weld rhagor o apiau i’ch helpu i adolygu, cliciwch yma.

Mae’n amhosibl dysgu popeth felly cofiwch fod yn realistig wrth fynd ati i adolygu.  Bydd hi’n hanfodol dynodi’r pethau sy’n bwysig a phethau nad ydynt mor bwysig o’r dechrau, yn ogystal â dysgu i flaenoriaethu’ch llwyth gwaith.  Pan deimlwch yn hyderus eich bod yn deall y gwaith, canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i chi am eich cwrs a chysylltwch eich syniadau’ch hun.  Bydd eich gwaith bob amser yn well pan fydd y darllenydd yn gallu synhwyro’ch brwdfrydedd a bydd yn cynyddu’ch mwynhad chithau hefyd.

Mae adolygu’n wahanol i bawb, ac mae’n bwysig dynodi’r hyn sy’n gweithio orau i chi.  Mae Ed Smith yn trafod nifer o ddulliau diddorol yn yr erthygl hon yn The New Statesman, a fydd efallai’n ddefnyddiol i chi.

Awgrymiadau Gwych Ymarferol

Gall cynllunio amser i astudio gyda ffrindiau a chyfoedion gynnig cymorth ychwanegol a bod yn gymhelliant mawr. Ewch arlein i weld amseroedd agor y llyfrgelloedd ac archebu ystafell astudio yma

Mae pawb yn gwybod bod ailadrodd yn ein helpu i ddysgu ond a wyddoch chi fod astudio’r un pethau mewn gwahanol leoedd yn gallu helpu i gryfhau’r cof? Mae rhagor o awgrymiadau cysylltiedig â gwyddoniaeth yma

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gymysgedd o ddysgwr gweledol, clywedol, ysgrifenedig a chinaesthetig ond sut allwn ni ddefnyddio’r rhain er budd i ni? Edrychwch ar strategaethau i’ch helpu i amsugno rhagor o wybodaeth

A yw’n well gennych astudio yn y bore neu gyda’r nos? Gyda cherddoriaeth neu mewn tawelwch? Trefnwch eich astudio o gwmpas yr hyn sy’n gweithio i chi.

Ar ddiwrnod yr arholiad – Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymhle mae angen i chi fod, faint o’r gloch a pha mor hir yw’r daith yno. Byddwch yn gynnar i osgoi straen munud olaf. A gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod larwm!

Gofynnwch am gymorth

Cofiwch bob amser os ydych chi’n cael trafferth, mae digon o bobl yn y Drindod Dewi Sant i roi cymorth i chi.  Ewch i’r llyfrgell, siaradwch â’ch tiwtoriaid a’ch cyd-fyfyrwyr, neu i gael cyfarwyddyd pellach gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr.

Rhannwch eich awgrymiadau astudio â ni yn @UWTSDStudents

Study Smart Sgiliau a Cyflogadwyedd development Instagram cyfleoedd Instagram datblygiad volunteering cysylltu Top Tips work experience Wellbeing Gwneud Newid Skills Development Featured cyngor opportunities Ffordd o Fyw Sylw Eich Prifysgol Awgrymiadau Gorau lles jobs Datblygiad Sgiliau Work Opportunities mindset Lifestyle career cyngor meddylfryd wellbeing networking advice Skills & Employability skills Your Uni Advice graduates resources Lles connect Inspiration Cyngor Make Change Uncategorized

Related Posts

SoCOM Group

Lles /

SoCOM Group

Pum Cam Syml tuag at Lesiant

Gwneud Newid /

Pum Cam Syml tuag at Lesiant

Cymerwch reolaeth ar eich adolygu

Ffordd o Fyw /

Cymerwch reolaeth ar eich adolygu

‹ The Exam Mindset › Email Phishing & Spam
resources Wellbeing Skills & Employability networking wellbeing datblygiad Lles Inspiration Uncategorized Cyngor Gwneud Newid Instagram Sylw mindset Make Change work experience opportunities lles skills Awgrymiadau Gorau Eich Prifysgol cyngor advice Advice cyfleoedd Ffordd o Fyw jobs cyngor graduates career Instagram Work Opportunities Top Tips connect development Sgiliau a Cyflogadwyedd volunteering Your Uni Study Smart Datblygiad Sgiliau meddylfryd cysylltu Lifestyle Skills Development Featured

Back to Top

Latest Tweets

  • We want to hear your thoughts about the Hwb App. Please complete the survey. We will use your feedback to help impr… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago
  • Rydym am glywed eich syniadau am Ap yr Hwb. Cwblhewch yr arolwg. Byddwn yn defnyddio'ch adborth i helpu i wella'r A… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago

Trydar Diweddaraf

  • We want to hear your thoughts about the Hwb App. Please complete the survey. We will use your feedback to help impr… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago
  • Rydym am glywed eich syniadau am Ap yr Hwb. Cwblhewch yr arolwg. Byddwn yn defnyddio'ch adborth i helpu i wella'r A… twitter.com/i/web/status/1…
    2 days ago

Recent Posts

  • Dydd Gŵyl Dewi Sant 2021
  • St David’s Day 2021
  • Grŵp SoCOM
  • SoCOM Group
  • Cymorth gyda LinkedIn
  • LinkedIn support
  • Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Blogiadau Diweddar

  • Dydd Gŵyl Dewi Sant 2021
  • St David’s Day 2021
  • Grŵp SoCOM
  • SoCOM Group
  • Cymorth gyda LinkedIn
  • LinkedIn support
  • Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr

Tags

adnoddau advice arholiadau be heard career community connect cyfleoedd cynaliadwyedd cyngor cyngor cysylltu datblygiad design thinking development exams fideos give graduates gwirfoddoli gyrfa Inspiration jobs lles meddylfryd mindset networking opportunities research resources rhoi rhwydweithio sgiliau skills sustainability swyddi TED videos voice volunteering wellbeing work experience Ysbrydoliaeth
  • Home
  • Contact
© Copyright 2018 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant