Rhowch eich pasbort yn barod!
Am deithio? Erioed wedi meddwl am astudio rhan o’ch gradd dramor?
Fel rhan o’n hymrwymiad i Ryngwladoli a chreu Dinasyddion Byd-eang, mae gan YDDS raglen astudio dramor ers peth amser ynghyd â nifer o raglenni cyfnewid gyda Cholegau a Phrifysgolion partner. Mae gennym gysylltiadau yn UDA, Canada, yn Ewrop trwy raglen Erasmus ac yn Tsieina trwy’r rhaglen Astudiaethau Tsieineaidd.
Mae gan fyfyrwyr YDDS gyfle i astudio yn un o’n partneriaid tramor gan ennill ar yr un pryd gredydau ar gyfer eu gradd. Fel arfer, bydd myfyrwyr yn mynd ar gyfer ail semester eu hail flwyddyn.
Yn ogystal â rhoi cyfle addysgol gwych i chi, dywed nifer o’n myfyrwyr fod y profiad wedi newid eu bywydau. Rydyn ni hefyd yn cefnogi ein myfyrwyr gydol y broses.
Oes gennych diddordeb?
Yn anffodus mae’r dyddiadau cau am Hydref 2018 a Gwanwyn 2019 wedi mynd, ond os ydych chi am wybod rhagor am y cyfleoedd i astudio dramor yn PCYDDS, cysylltwch â Kath Griffiths trwy anfon e-bost at: k.griffiths@uwtsd.ac.uk
Twitter: @studyinwales
Facebook:@UWTSDInternationalOpportunities
07770 998 595
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Adyudio Dramor cliciwch yma