Ymgeisio am eich Cyllid Myfyriwr
I wneud yn siŵr eich bod yn derbyn eich cyllid myfyriwr ar gyfer 2021/22 dylech ymgeisio cyn gynted â phosib.
Mae’r broses yn wahanol yn dibynnu ar a ydych yn fyfyriwr o Gymru, Yr Alban neu Loegr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau’n ofalus.
Os ydych yn fyfyriwr o o Gymru, yr Alban neu Loegr y ffordd gyflymaf a hawsaf o ymgeisio yw ar-lein. Yn anffodus, nid yw’r broses hon ar gael i fyfyrwyr yr UE a bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen bapur a phostio’r cais.
Parhau â’ch cwrs gyda ni
Os ydych yn fyfyriwr israddedig sy’n parhau gyda’ch cwrs bydd angen i chi ailymgeisio am gyllid myfyriwr. I wneud hyn, mewngofnodwch i’r llwyfan gan ddefnyddio’ch rhif cyfeirnod cwsmer, a chadarnhau’ch cwrs a manylion cyswllt.
Peidiwch ag oedi! Sicrhewch eich bod yn gwneud eich cais ar amser fel bod y taliadau’n barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Os bydd unrhyw rai o’ch amgylchiadau wedi newid, bydd angen i chi roi gwybod i gyllid myfyrwyr gan y gallai hyn effeithio ar eich hawliau, ond peidiwch a phoeni os bydd unrhyw beth yn newid o ran y cwrs mi wneith y Brifysgol hybysu Cyllid Myfyrwyr.
Sylwer os gwelwch yn dda na fydd angen i chi ailymgeisio os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig sy’n parhau, gan fod o broses hon yn awtomatig.
Dechrau cwrs newydd
Os nad ydych yn fyfyriwr newydd i PCYDDS, ond rydych yn dechrau cwrs israddedig amser llawn gyda ni, e.e. wedi cwblhau Tyst AU ac yn dechrau BA (neu gyfwerth) bydd angen i chi gyflwyno cais NEWYDD am gyllid myfyriwr.
Unwaith eto, y ffordd gyflynaf o wneud hyn yw ar-lein gan y dylai’r system ymgeisio ar-lein gadw’ch manylion blaenorol. Os ydych yn cael problemau, cewch ofyn am ffurflen bapur oddi wrth y darparwr cyllid myfyrwyr.
Oes angen help arnoch?
Os ydych yn cael problemau gyda’ch cais cysylltwch â’ch Swyddog Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Caerfyrddin, Birmingham, Llundain a Chaerdydd, Llambed neu Abertawe.
Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Hwb Myfyrwyr ar hwb@uwtsd.ac.uk neu 0300 131 3030