Bob dydd, i wneud fy nhaith yn ôl a blaen i’r gwaith yn fwy difyr, rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn gwrando ar bodlediadau. Does gen i ddim cywilydd cyfaddef fy mod i’n dipyn o ffanatig o bodlediadau, ac wedi tanysgrifio i amrywiaeth ohonynt, o droseddau go iawn i gomedi. Mae ein llesiant yn cael cymaint o effaith ar ein bywydau pob dydd nes i mi benderfynu gwneud defnydd da o’m sgiliau gwrando ac adolygu ychydig o bodlediadau sy’n canolbwyntio ar agweddau pwysig ar lesiant.
Rydym yn gwella o ran trafod materion iechyd meddwl sy’n effeithio arnom ni a’n hanwyliaid, ond mae tipyn o ffordd i fynd i ddileu’r stigma sy’n gysylltiedig ag iselder, gorbryder, PTSD a nifer o gyflyrau eraill. Mae rhai podlediadau gwych ar gael sy’n wynebu’r gwir faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn modd ffres ac agored…
Mae’r podlediad hwn yng nghwmni Fearne Cotton yn chwa o awyr iach. Mae ei thrafodaethau onest a di-flewyn-ar-dafod am iechyd meddwl gyda’r rhai mae hi’n eu hedmygu yn ysbrydoli, yn herio rhagdybiaethau ynglŷn â phwy mae’n effeithio arno, ac yn dangos bod pob profiad yn unigryw. Mae’r podlediad yn cwmpasu ystod o faterion iechyd meddwl ac mae’r gwesteion yn siarad mewn manylder am eu profiadau a’r dulliau o ymdopi maen nhw’n eu dilyn. Mae’r gwesteion yn cynnwys Dawn French, Russell Brand, Natalie Dormer a Zoe Sugg i enwi ond ychydig.
Gwych ar gyfer: Trafodaethau manwl ynghylch iechyd meddwl, gwesteion diddorol
Mae The Science of Happiness a gynhyrchir ar y cyd gan PRI a’r Greater Good Science Centre ym Mhrifysgol California, Berkeley, yn trafod y wyddoniaeth wrth wraidd lles, gyda phob episod yn archwilio strategaeth wahanol i wella ein cadernid, ein hunan-drugaredd a’n lles cyffredinol. Yn ystod yr episod maent yn cael pobl gyffredin i brofi un o’u strategaethau yn eu bywydau pob dydd ac yna ymchwilio i’r seicoleg y tu ôl iddo. Mae’r ymarferion yn ymarferol iawn, ac mae’r amrywiaeth yn golygu bod yna rywbeth i bawb.
Gwych ar gyfer: y rhai sydd â diddordeb mewn seicoleg ac ymchwil, gan wneud defnydd o amrywiaeth o ymarferion
Mae’r podlediad hwn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau o fewn iechyd meddwl a lles, ac yn cynnwys ymarferion byr i helpu gydag ymlacio, cysgu a goresgyn ofn a gorbryder. Fe’u cyflwynir mewn llais tawel a digynnwrf gan Dr David Peters, arweinydd y Centre of Resilience ym Mhrifysgol Westminster, ac maent yn hawdd eu cynnwys yn eich drefn feunyddiol. Ychydig iawn o bodlediadau sydd â chymaint o amrywiaeth o ymarferion ymlacio a luniwyd i roi’r seibiant sydd ei angen ar y corff (ond peidiwch â gwrando wrth yrru 😊).
Gwych ar gyfer: ymarferion ymlacio byr, cyflwyno eiliad o lonyddwch i’ch diwrnod
Os oes gennych unrhyw sylwadau am bodlediadau arall, dywedwch wrthyn ni trwy @UWTSDStudents