Prydau Rhad: Cadw’n Iach wrth Arbed Arian
Yn aml iawn ym mywyd myfyrwyr rydych yn wynebu costau nad oeddech efallai wedi’u disgwyl wrth wneud cais i ddod i brifysgol. Mae trafnidiaeth, llety a bwyd i gyd yn hanfodol, ond maent yn gallu arwain at fil afresymol o uchel (ac annerbyniol) os nad ydych yn ofalus sut rydych chi’n gwario eich arian.
Gobeithiwn y bydd y cynghorion cyllidebu hyn yn ddefnyddiol i arbed arian i chi wrth brynu a pharatoi bwyd.
Mae lleihau gwastraff bwyd yn ffordd hawdd o arbed arian a gall hefyd eich helpu i fyw’n fwy cynaliadwy. Os ydych chi’n euog o daflu llawer o fwyd neu anghofio amdano yng nghefn yr oergell, byddwch yn greadigol ac ailddefnyddio’r bwyd sydd dros ben gennych i greu pryd o’r newydd. Mae’n ddiogel a gan amlaf bydd eich cinio hyd yn oed yn fwy blasus yr eildro! Rhowch gynnig ar wneud isgell gyda’r llysiau sydd gennych dros ben, neu bobi cacen flasus gyda’ch bananas goraeddfed. Er mwyn cael syniadau a ryseitiau, cadwch lygad am flogiau bwyd sydd at eich dant.
Gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd rydych chi’n storio a pharatoi bwyd hefyd helpu lleihau gwastraff ac arbed arian i chi. Cadwch eich bara yn y rhewgell a dadrewi ychydig o dafelli ar y tro i’w atal rhag sychu. Os ydych chi’n cael trafferth bwyta’ch ffrwythau i gyd, gellir eu cadw nhw hefyd yn y rhewgell ac yna’u dadrewi.
Gall rhannu’r cyfrifoldeb o siopa am fwyd a choginio gyda’ch ffrindiau wneud gwahaniaeth mawr i’ch bil bwyd. Hyd yn oed os byddwch chi ond yn rhannu’r pethau sylfaenol, mae bag mawr o basta neu reis yn llawer rhatach na nifer o bacedi bach.
Mae gwneud i fwyd fynd ymhellach trwy goginio i nifer gyda’ch ffrindiau yn gam syml tuag at fod yn fwy cost-effeithiol ac mae hefyd yn dileu gwastraff bwyd. Mae coginio a bwyta gyda’ch gilydd hefyd yn ffordd wych o ddod i adnabod eich gilydd a chymdeithasu.
Gallwch hefyd ymuno a chymuned fel OLIO, ap sydd yn cysylltu cymdogion a siopau lleol i rannu bwyd dros ben ac atal taflu gweddillion i ffwrdd. Mae hwn yn ffordd wych o ail-ddefnyddio’ch gweddillion, cysylltu â phobl yn eich cymuned, a gwneud effaith bositif ar yr amgylchedd.
Mae bod yn fwy trefnus wrth siopa’n wythnosol yn ffordd arall wych o arbed arian yn y pen draw. Dechreuwch trwy gynllunio eich prydau ac ysgrifennu rhestr siopa. Trwy gadw at restr, rydych yn fwy tebygol o lawer o osgoi gwastraff a byddwch yn anochel yn gwario llai. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn tueddu anghofio am y bwyd sy’n cuddio yng nghefn ein cypyrddau. Byddwch yn drylwyr ac atgoffa’ch hun o’r hyn sydd gennych cyn cynllunio eich taith siopa.
Dewch yn gyfarwydd â lleoliad cyfleusterau rhannu tegell a microdon ar eich campws. Os gallwch baratoi ymlaen llaw, gallwch yn hawdd gynhesu eich cinio pan fyddwch ar hyd y lle yn hytrach na phrynu cinio yn ffreutur y brifysgol.
Os yw te a choffi yn eich cadw i fynd wrth i chi astudio, ystyriwch fuddsoddi mewn cwpan y gellir ei ailddefnyddio. Nid yn unig mae’n fwy cynaliadwy, ond mae siopau coffi yn aml yn cynnig disgownt i bobl sy’n dod â chwpanau y gellir eu hailddefnyddio gyda nhw.
Os ydych chi’n dod a chwpan i’w ailddefnyddio gyda chi i brynu diodydd poeth yn un o ffreuturau’r brifysgol, byddwch yn cael eich gwobrwyo gyda stamp. Am bob deg stamp a chasglwyd byddwn yn rhoi diod boeth am ddim i chi.
Yn olaf, gofynnwch am ddisgownt. Os byddwch yn penderfynu tretio’ch hun i bryd mewn bwyty neu bryd parod i fwyta gartref, gallech gael disgownt sylweddol wrth ddangos eich cerdyn myfyriwr neu gerdyn NUS extra. Defnyddiwch e tra gallwch chi!