Pum Cam Syml tuag at Lesiant
Mae bywyd myfyrwyr yn heriol, ac mae’n amser hanfodol o ran edrych ar ôl eich iechyd meddwl a chorfforol.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r pum weithred yma, a ddatblygwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd, ac a fydd yn annog ac yn cyfoethogi llesiant i ategu’ch astudiaethau. Gall bod yn ymwybodol o’r camau syml hyn eich helpu teimlo’n hapusach ac yn fwy cadarnhaol yn ystod eich amser yn PCYDDS.
Cysylltu
Mae tystiolaeth gref i awgrymu bod teimlo eich bod o werth, ynghyd â chysylltu ag eraill, yn gallu helpu hybu teimlad cryfach o fwriad a chyfoethogi llesiant.
Mae nifer o ffyrdd i chi gysylltu yn ystod eich amser yn y brifysgol. Cymdeithasu gyda phobl sydd â diddordebau sy’n debyg i’ch rhai chi drwy ymuno â chymdeithas yn eich Undeb Myfyrwyr, chwilio am waith rhan-amser y gellir ei ffitio o gwmpas eich astudiaethau, neu fwynhau sgwrs gyda chyd-letywr.
Bod yn Weithgar
Mae bod yn weithgar yn chwarae rôl allweddol mewn annog llesiant. Yn wir, mae ymchwil yn awgrymu y gall ymarfer corff leihau symptomau straen, gorbryder ac iselder. Does dim rhaid iddo fod yn feichus – ceisiwch gerdded yn lle defnyddio cludiant cyhoeddus, neu dringwch y grisiau yn lle defnyddio’r lifft. Gall newidiadau bach yn eich arferion beunyddiol wneud gwahaniaeth annisgwyl.
Am ragor o wybodaeth am deithio’n weithgar ewch i’r tudalen Teithio’n Werdd.
Talu Sylw
Mae talu rhagor o sylw i’r pethau bychain a bod ‘yn y foment’ yn ffordd wych o godi’ch hwyliau. Ceisiwch rywbeth newydd, tynnwch luniau neu ewch adref ar lwybr gwahanol ar ôl darlith.
Dysgu
Gall parhau i ddysgu gynyddu hunan-barch, cynnig cyfleoedd i gysylltu ag eraill, a’ch helpu dod yn fwy gweithgar. Rydych eisoes yn y brifysgol, ond ystyriwch ddysgu rhywbeth er mwyn hwyl y tu allan i’ch cwrs. Ymunwch â chymdeithas, dysgwch sgil newydd neu codwch rywbeth ychydig yn wahanol i’w ddarllen yn y llyfrgell. Efallai gallech ymgeisio am cefnogaeth cyllidol I’ch helpu ar hyd eich astudiaethau ychwanegol.
Mae’r Tîm Cyflawni Cynaliadwyedd yn edrych ar ôl rhandiroedd ar bob un o gampysau PCYDDS. Cymerwch ran a dysgwch sut i dyfu bwyd iach drwy gysylltu â livegreener@uwtsd.ac.uk
Cadwch lygad ar @UWTSDStudents am gyfleoedd i gofrestru ar gwrs Cynaliadwyedd nesaf INSPIRE.
Rhoi
Adroddwyd bod y rhai sy’n dangos mwy o ddiddordeb mewn helpu eraill yn aml yn fwy hapus eu hunain. Ceisiwch gynyddu’ch llesiant drwy gymryd rhan yng nghymuned y brifysgol. Mae nifer o fentrau a seilir yn y gymuned y gallwch ymwneud â nhw:
- Cymryd rhan mewn Ewch yn Werdd PCYDDS
- Helpu elusen codi arian
- Dechrau ymgyrch gwirfoddoli
- Cynnal sgwrs gyda’ch ffrindiau am iechyd meddwl
Rhannwch gyda ni eich cyngor eich hun ar lesiant ar @UWTSDStudents