Mae bod yn fyfyriwr yn gostus, a bydd eich cyllid yn dioddef rhywfaint. Bydd cynllunio eich gwariant wythnosol a chadw cofnod o’r arian sy’n gadael eich cyfrif banc yn gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus ac yn rhoi sicrwydd ichi na fyddwch heb yr un geiniog ar ddiwedd y semester. Fe fydd yn gwella eich profiad cyffredinol yn YDDS a’r gobaith yw y byddwch yn treulio llai o amser yn poeni am eich llif arian.
Gallwch deimlo bod gennych lwyth o arian pan fydd eich benthyciad myfyriwr yn glanio yn eich cyfrif ar ddechrau’r tymor, ond mae’n bwysig iawn eich bod yn ei wario’n ddoeth. Rhowch ychydig o amser i’r neilltu i gynllunio’ch cyllideb. Dyma rai awgrymiadau i wneud rheoli’ch arian yn haws i chi;
Byddwch yn realistig
Nid yw rhoi cyllideb dyn iawn i chi’ch hunan yn debygol o weithio. Mae angen i chi ystyried eich holl hanfodion wythnosol a sicrhau eich bod yn mynd i gael amser da. Edrychwch ar beth sydd gennych ar ddechrau’r tymor. Mae angen i chi gynnwys eich benthyciad myfyriwr, incwm o swydd neu unrhyw fwrsarïau ac ysgoloriaethau. Yna, gweithiwch allan faint o arian rydych chi’n ei wario fel arfer. Bydd hyn ychydig yn anoddach ac i gyd yn amodol ar eich amgylchiadau personol, ond dyma syniad o’r pethau y bydd eisiau i chi eu hystyried;
- Eich rhent neu gostau llety Prifysgol
- Eich biliau yn y llety
- Pethau ar gyfer eich cwrs; gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu, ayb
- Teithio i’r campws ac yn ôl
- Siopa bwyd wythnosol
- Unrhyw ddebydau uniongyrchol a allai fod gennych, biliau ffôn, ayb.
- Pethau bach ychwanegol – bwyta allan, yfed, dillad, hobïau ayb.
- Penblwyddi, Nadolig, gwyliau
Tynnwch eich treuliau oddi wrth eich incwm a’i rannu gyda nifer yr wythnosau y mae’n rhaid iddo bara i chi. Bydd hyn y rhoi syniad bras i chi o faint sydd gennych chi bob wythnos. Pan fydd gennych y ffigwr hwn, mae’n bwysig bod yn ddisgybledig a pheidio â gorwario.
Rhowch gynnig ar ap
Os nad ydych chi’n hoff o gadw taenlen, peidiwch â phoeni – mae yna gymaint o apiau cyllidebu gwych ar gael, ac mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim. Gall defnyddio ap i reoli eich arian fod yn ffordd wych o gadw popeth dan reolaeth. Nid yn unig y byddwch yn gallu edrych ar eich cyllideb pryd bynnag y bydd angen, ond mae’n fwy tebygol hefyd o’ch annog i fonitro’ch gwariant. Dyma rai sydd ag enw da a argymhellir gan wefan ‘Money Saving Expert’;
- Yolt – ar gael ar iOS ac Android, bydd yr ap hwn yn eich galluogi i gydamseru eich holl gyfrifon ar un olwg fel y gallwch weld yn glir i ble y mae eich arian yn mynd
- Cleo – ap unigryw sy’n gweithio drwy Facebook Messenger fel cynorthwyydd cyllidebu ‘AI’. Gallwch ofyn unrhyw beth i Cleo; o ‘Beth yw fy malans?’ i ‘Alla’i fforddio bwyta allan heno?’. Fe gwneith hi eich helpu i reoli eich arian drwy wybodaeth bersonol a hysbysiadau pwrpasol (‘push notifications’)
- Money Dashboard – yn gwneud beth mae’n ei ddweud ar y tun – mae’n arddangos yr holl arian sydd gennych yn dod i mewn a’r arian sy’n mynd allan ar ddangosfwrdd syml fel y gallwch fonitro’ch gwariant yn agos
- Pariti – mae’r ap hwn yn casglu’ch cyfrifon banc at ei gilydd fel y gallwch weld y symiau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan yn rhwydd yn erbyn eich targedau gwariant. Mae hon yn ffordd wych i weld yn union faint sydd gennych ar ôl i’w wario o ddydd i ddydd
Os nad yw’r rhain yn addas ar eich cyfer, cofiwch y gallwch greu eich taenlen eich hun neu lawrlwytho templed cyllidebu da. Ond cofiwch ddal ati i dalu sylw iddo!
Gofyn am gymorth
Os ydych yn ei gael yn anodd rheoli eich arian, cofiwch y gallwch ofyn am gyngor a chymorth gan y Brifysgol unrhyw bryd.
Cysylltwch â’r Swyddog Cyllid Myfyrwyr ar eich campws am gyngor ar reoli’ch arian, gwneud penderfyniadau ariannol, a gwybodaeth am fwrsarïau y gallwch wneud cais amdanynt;
Caerfyrddin, Birmingham a Llundain
Ffôn: 01267 676830
Llambed
Ffôn: 01570 424722
Abertawe
Ffôn: 01792 481123
Am awgrymiadau gwych ar arbed a rheoli’ch arian, ewch i Money Saving Expert. Oes gennych chi eich awgrymiadau eich hun? Rhannwch nhw gyda ni drwy gysylltu â ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.