Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn arfer sefydledig y profwyd ei fod yn lleihau straen a gorbryder trwy fyfyrio gan wella eich gallu i ganolbwyntio, a’ch helpu i ymdopi â’r rhwystrau y mae bywyd yn eu taflu atoch.
Gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar fod yn ffordd wych o leihau straen bywyd yn y brifysgol ac rydym wedi casglu ynghyd rai adnoddau i’ch cyflwyno i ymwybyddiaeth ofalgar.
Pa un a yw’n eich helpu i wella eich gallu i ganolbwyntio neu hyd yn oed reoli poen cronig, gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu ag amrywiaeth o broblemau.
Os ydych chi dal ddim yn siŵr, gwrandewch ar y sgwrs hon i weld beth mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn ei olygu.