Yn Cyhoeddi: Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021
Ydych chi erioed wedi meddwl am weithio i’ch hunan? Ydych chi am wireddu gweithio ar eich liwt eich hun, neu droi eich eilbeth yn yrfa gyffrous newydd?
Pam na wnewch chi ymuno â ni ar-lein (Tachwedd 8fed – 12 fed) a dysgu’r sgiliau a fydd eu hangen arnoch i wireddu eich breuddwydion busnes, a chwrdd â myfyrwyr eraill sydd â’r un uchelgeisiau?
Fel rhan o fudiad byd-eang i annog myfyrwyr i ryddhau eu potensial fel mentrwyr, mae PCYDDS yn dathlu’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang flynyddol gyda rhaglen orlawn o ddigwyddiadau, gweithdai a chystadlaethau amlddisgyblaethol ar-lein sy’n agored i bob un o’n myfyrwyr.
Meddai Dylan Williams-Evans, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth PCYDDS: “Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddod ynghyd mewn amgylchedd cyfeillgar i glywed perchnogion busnes profiadol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau. Byddwn yn ymdrin ag amrywiol destunau, megis sut i ddechrau eich busnes eich hun, menter gymdeithasol a hyd yn oed sut i adeiladu eich gwefan neu eich ap eich hun. Cewch hefyd gyfle i ddysgu wrth, neu i wrando ar fyfyrwyr sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain ac yn astudio ar yr un pryd.”
Pe bai unrhyw fyfyrwyr yn eich plith yn ystyried gweithio i’w hunain, yn meddwl am ddechrau busnesau neu yrfaoedd ar eu liwt eu hunain, neu wedi dechrau neu ar fin dechrau eu mentrau eu hunain, dylent gadw eu llygaid ar agor am fanylion pellach ynglŷn ag Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2021, a gaiff eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth yn y cyfamser, cysylltwch â: enterprise@uwtsd.ac.uk