Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, drwy rannu stori ysbrydoledig Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America oddeutu 170 o flynyddoedd yn ôl.  

Jessie Donaldson

Bydd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yn traddodi darlith am waith Jessie er mwyn dathlu a thynnu sylw at gyflawniadau, cyfraniadau, a gwytnwch yr athrawes a’r ymgyrchydd gwrth-caethwasiaeth. 

Cynhelir y ddarlith yn Ystafell Ddarllen y Brifysgol yn Adeilad Alex yn Abertawe, a hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres flynyddol newydd gan PCYDDS mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Menywod y Brifysgol. 

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 yw Ysbrydoli Cynhwysiant. 

Meddai’r Athro Evans: “Mae Jessie wedi’i disgrifio’n arloeswr, a frwydrodd am gyfartaledd a newid, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn UDA. Ar un adeg disgrifiwyd ei stori fel un a oedd ‘wedi mynd yn angof.’ Fodd bynnag, mae hynny wedi newid erbyn hyn, gyda phlac glas i gydnabod yn falch ei chyfraniad yn Abertawe. 

“Trwy arddangos naratifau amrywiol megis un Jessie, gallwn ni ysbrydoli pobl eraill tebyg iddi i rannu eu gwaith, gan feithrin cymdeithas fwy cynhwysol a grymusol.”

Mae’r plac glas a gyflwynwyd i waith Jessie i’w weld ar wal allanol Adeilad Dinefwr y Brifysgol yng nghanol y ddinas. 

Fe’i dadorchuddiwyd yn 2021 ar 19 Mehefin – dyddiad y cyfeirir ato hefyd fel y ‘Juneteenth’, sef y dathliad hynaf hysbys o ddod â chaethwasiaeth i ben yn yr Unol Daleithiau. 

Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gadw tŷ diogel ar y ‘rheilffordd danddaearol’ enwog, ac roedd mewn perygl o gael dirwyon a dedfrydau o garchar am gynnig lloches a diogelwch i gaethion wrth iddynt geisio dianc o daleithiau’r de i ogledd America.

Cyflwynwyd yr enwebiad am blac glas i Gyngor Abertawe gan yr hanesydd diwylliannol o Abertawe, y ddiweddar Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas yn rhan o PCYDDS.

Bu’r Athro Wilson yn cynnal ymchwil i fywyd Jessie dros nifer mawr o flynyddoedd, yn cynnwys ymweld nifer o weithiau â Chanolfan Ryddid Genedlaethol y Rheilffordd Danddaearol yn Cincinnati, a meddai ar y pryd:  “Yn 57 oed gadawodd Jessie Donaldson Abertawe i ddechrau bywyd hynod o wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr, a’i thŷ hithau ar lannau Afon Ohio oedd y trydydd o’r tai diogel Cymreig i gaethion ar ffo. 

“Gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie yn gweithio wrth ochr ei ffrindiau, gan alluogi ffoaduriaid o’r planhigfeydd ar draws yr afon i geisio rhyddid.”

Yn dilyn y ddarlith bydd seremoni wobrwyo hefyd i nodi a dathlu cyflawniadau menywod ar draws y Brifysgol. 

Meddai Caroline Lewis, Pennaeth (interim) Canolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth y Brifysgol ac un o’r menywod a sefydlodd Rwydwaith Menywod y Brifysgol:  “Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn falch iawn o allu dod â chydweithwyr at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau’r gorffennol tra byddwn hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol ac i dynnu sylw at waith y rheini sy’n gweithio i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.  

‘Yn y digwyddiad, byddwn hefyd yn dathlu’r rheini a enwebwyd am wobr ‘Menywod y Flwyddyn’ Rhwydwaith y Menywod, gan nodi’r cyfraniad anhygoel y bydd cydweithwyr yn ei wneud yn barhaus i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau i’n staff a’n myfyrwyr,”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau