Skip page header and navigation

Taith y Myfyriwr

Mae ein timau yma i helpu i’ch tywys drwy bob cam o’r broses ymgeisio. Rydym wedi amlinellu pob un o’r camau allweddol y bydd angen i chi eu cymryd ar eich taith i ymuno â’n cymuned ddysgu groesawgar a dod yn fyfyriwr yn PCYDDS.

Os ydych chi’n chwilio am ragor o wybodaeth am astudio, a’r broses ymgeisio, gallwch gysylltu â’n tîm penodedig sydd ar gael i ateb eich cwestiynau.

Taith y Myfyriwr

Cam 1 – Dewis Ble i Astudio

Mae penderfynu ble a beth rydych chi am ei astudio’n benderfyniad pwysig. Mae blas ar fywyd myfyrwyr ym mhob campws i’w weld ar y tudalennau bywyd campws. Treuliwch funud neu ddau’n gwylio’r fideos am fywyd myfyrwyr i gael eich cipolwg cyntaf ar ein campysau! Ewch i gael golwg ar y cyrsiau sydd ar gael, a gweld ar ba gampysau y mae’r cyrsiau hynny.

Cam 2 – Dewis Beth i Astudio

Dewiswch gwrs sy’n cyd-fynd â’ch nodau, ac ymchwiliwch y gwahanol gyrsiau sydd ar gael i’ch helpu i gyrraedd yno. Rydym wedi rhannu ein cyrsiau yn ôl meysydd pwnc i’w gwneud yn haws i chi. Pan fyddwch wedi dewis i ble yr hoffech fynd a beth i’w astudio, dylech drefnu dod i Ddiwrnod Agored i gael profi naws y campws.

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Cam 3 – Cyflwyno Cais

Caiff y rhan fwyaf o Geisiadau Israddedig eu cyflwyno drwy UCAS. Gallwch ychwanegu 5 cwrs, naill ai yn yr un brifysgol neu mewn prifysgolion gwahanol.

Unwaith y byddwch wedi dewis eich opsiynau, ysgrifennwch ddatganiad personol rhagorol sy’n dweud wrthym pwy ydych chi go iawn a pham eich bod am astudio gyda ni. Bydd y fideo Canllaw i Ysgrifennu Datganiad Personol yn help i chi ddechrau.
 

Cam 4 – Eich Opsiynau Llety

Nawr eich bod wedi cyflwyno cais, byddwch am wybod beth yw’r cam nesaf. Y peth nesaf i’w ystyried yw ble byddwch chi’n aros yn ystod eich astudiaethau.

Mae’r dudalen llety’n egluro’r opsiynau llety gwahanol sydd ar gael ar ein campysau.
 

Cam 5 – Cyllid a Chymorth i Fyfyrwyr

Un o’r ffactorau pwysicaf wrth astudio yn y brifysgol yw ffioedd a chyllid. Gan fod llawer o opsiynau cyllid myfyrwyr ar gael, mae’r dudalen ffioedd a chyllid yn lle da i ddechrau.

Cam 6 – Derbyn Eich Cynnig

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn ystyried eich cais ac yn ceisio gwneud cynnig i chi astudio gyda ni. Pan fyddwch wedi cael eich cynnig, gallwch ei dderbyn trwy UCAS neu ar ein porth ar-lein (i fyfyrwyr nad ydynt yn gwneud cais trwy UCAS). Wedyn mae angen i chi gadw golwg am e-byst i gadarnhau eich diwrnod dechrau, llety a chyllid myfyrwyr.

Tra byddwch yn aros am eich cynnig, dysgwch am yr hyn sy’n digwydd ar draws ein campysau, gan gynnwys Cyfleoedd Cymraeg, Cyfleoedd Byd-eang a Chymdeithasau a Chyfleoedd Chwaraeon.
 

Students and staff smiling and enjoying a hot drink

Ydych Chi Wedi Colli Dyddiad Cau Mis Ionawr?

Ydych chi wedi colli dyddiad cau mis Ionawr ond yn awyddus i ddechrau ym mis Medi? Peidiwch â phoeni, gallwch ymgeisio o hyd drwy UCAS Extra rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf neu drwy’r drefn clirio ym mis Gorffennaf a mis Awst.

Mathau o Gwrs

Isod ceir canllaw cyflym ar y mathau gwahanol o gyrsiau a’r mathau o astudiaethau a gynigir gan brifysgolion, i’ch helpu i wneud dewis gwybodus am beth a sut yr hoffech astudio.

Baglor yn y Celfyddydau (BA) / Baglor Gwyddoniaeth (BSc) / Baglor Peirianneg (BEng) / Baglor Cerddoriaeth (BMus) / Baglor yn y Gyfraith (LLB)

Cymhwyster Lefel 6 lle byddwch fel arfer yn astudio yn llawn-amser am dair blynedd*.

*Mae rhai graddau dwy flynedd ar gael.

Diploma Addysg Uwch (DipHE)

Cymhwyster Lefel 5 sy’n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf rhaglen lawn-amser.

Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE)

Cymhwyster Lefel 4 sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen lawn-amser.

Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)

Cymhwyster Lefel 5 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd llawn-amser.

Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)

Cymhwyster Lefel 4 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd lawn-amser.

Meistr Dylunio (MDes)

Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 sydd fel arfer yn gofyn am bedair blynedd o astudio llawn-amser.

Meistr yn y Celfyddydau (MA), Meistr Gwyddoniaeth (MSc) / Meistr Diwinyddiaeth (MTh) / Meistr Gweinyddu Busnes (MBA)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 180 credyd.

Tystysgrif Addysg Uwchradd i Raddedigion (TAR Uwchradd) / Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) / Addysg Ôl-orfodol (PCE)

Cymhwyster sy’n cynnwys 60 credyd ar lefel 7, a 60 credyd ar lefel 6. 

Diploma i Raddedigion (PGDip)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 120 credyd.

Tystysgrif i Raddedigion (PGCert) / Tystysgrif Prifysgol (UniCert)

Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 60 credyd.

Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Cymhwyster lefel 8, prosiect ymchwil a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 3-4 blynedd os ydy’n amser llawn neu 6-8 blynedd yn rhan-amser. 

Doethuriaethau Proffesiynol (DProf/ProfDoc) / Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) / Doethur mewn Addysg (EdD)

Cymhwyster lefel 8, fel arfer gyda blwyddyn o fodylau a addysgir a 2-3 blynedd am brosiect ymchwil os ydy’n amser llawn, neu 2 flynedd (a addysgir) a 4-6 blynedd (prosiect) yn rhan-amser.

Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig (PhD)

Cymhwyster lefel 8 sy’n cynnwys dadansoddiad adfyfyriol a detholiad o weithiau cyhoeddedig a adolygwyd gan gymheiriaid rhyngwladol yn flaenorol, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn blwyddyn yn amser llawn neu 2 flynedd yn rhan-amser. 

Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)

Cymhwyster lefel 7, sy’n gyfwerth â’r 2 flynedd astudio gyntaf ar gyfer PhD, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2-3 blynedd yn amser llawn neu 4-6 blynedd yn rhan-amser.

Meistr mewn Ymchwil (MRes)

Cymhwyster lefel 7, â 60 credyd o fodylau a addysgir a phrosiect ymchwil, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2 flynedd yn amser llawn neu 4 blynedd yn rhan-amser. 

Meistr yn y Gwyddorau drwy Ymchwil (MScRes)

Cymhwyster lefel 7 heb unrhyw fodylau a addysgir, a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 1-2 flynedd yn amser llawn neu 2-4 blynedd yn rhan-amser. 

Ar y Campws

Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn dysgu ar y campws drwy gydol y cwrs, ac eithrio elfennau ar-lein cefnogol, a fydd yn llai na 25% o gynnwys y cwrs.

Cyfunol

Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn bresennol am fwy na 50% o gyfanswm eu horiau cyswllt.

O Bell

Rhaglenni lle nad yw myfyrwyr yn bresennol yn gorfforol yn ystod y cwrs. 

Amser Llawn

Mae myfyrwyr fel arfer yn astudio 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd

Rhan-amser

Mae myfyrwyr fel arfer yn astudio llai na 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd, ond gall union nifer y credydau bob blwyddyn amrywio.