Skip page header and navigation

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

radi li ovo

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

Lansiwyd Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès. Mae wedi’i leoli ar Gampws Llambed PCYDDS, gyda chefnogaeth partneriaid byd-eang. Mae’r Sefydliad yn parhau â sawl prif raglen ymchwil ryngwladol a ddatblygwyd yn flaenorol yn Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès, ac mae’n rhan o amgylchedd ymchwil ac addysgu a chymuned ddysgu ardderchog yn PCYDDS. 

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn ceisio ymwneud ag ymchwil ar flaen y gad sy’n anelu at ddealltwriaeth newydd, arloesi, newid polisi, a thrawsnewid cymdeithasol.

Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Meithrin iachâd ar y cyd (gan gynnwys iacháu clwyfau o erchyllterau’r gorffennol a chlwyfau ein planed), cyfoethogi adfywio cymunedol, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac undod byd-eang.
  • Grymuso arweinyddiaeth ieuenctid, meithrin cymwyseddau trawsnewidiol ieuenctid a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynoli hwyluswyr iachâd ar y cyd ac adfywio cymunedol.
  • Cysoni llesiant dynol cyfannolâ ffyniant ein planed.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu prosesau llywodraethusy’n seiliedig ar werthoedd, sy’n canolbwyntio ar ddeialog, ac sy’n ystyriol o les.
  • Annog trawsnewid addysgolac ysbrydoli diwylliant gofalgar mewn sefydliadau addysgol.
  • Creu mannau ar gyfer cyfarfyddiadau dwfn, gwrando astud, a deialog ddofn er mwyn ennyn heddwch a mwy o gytgordymhlith popeth sy’n bod.

Cyflawnir yr holl weithgareddau hyn mewn partneriaeth â Phrosiect Llwybrau Caethweision UNESCO ac maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion UNESCO.

Byddwn yn cynnig cyrsiau gradd meistr a doethurol a rhaglenni proffesiynol mewn iachâd ar y cyd, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, trawsnewid gwrthdaro, deialog ddofn, heddwch cadarnhaol, addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, ac adfywio cymunedol.

Cysylltu â Ni