Skip page header and navigation

Cynhaliwyd digwyddiad gan yr Athrofa Rheolaeth a Iechyd i archwilio cyfleoedd a heriau ar gyfer addysg uwch ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Images of Institute of Management and Health development day

Ymunodd Athrawon Ymarfer a phartneriaid â thimau academaidd y Brifysgol i archwilio a rhoi mewnwelediadau i anghenion sgiliau’r presennol a’r dyfodol o fewn eu meysydd arbenigedd perthnasol, sy’n cynnwys iechyd a ffordd o fyw, rheolaeth a busnes, a thwristiaeth a lletygarwch. Y nod oedd nodi blaenoriaethau allweddol i’w datblygu o fewn y disgyblaethau hyn dros y blynyddoedd i ddod. 

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Llun, 4 Mawrth, cyflwynodd yr Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, dystysgrifau i Athrawon Ymarfer sydd newydd eu penodi: Dr Subhamay Ghosh, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Rhidian Hurle ac Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Meddai’r Athro Dearing; 

“Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod Dr Subhamay Ghosh, Rhidian Hurle ac Ifan Evans wedi’u penodi’n Athrawon Ymarfer gan y Brifysgol ac y bydd eu harbenigedd a’u profiad o fudd i’n staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid. Maent yn unigolion sydd wedi rhagori yn eu meysydd proffesiynol sy’n cyd-fynd yn agos â bwriad strategol y Brifysgol. Maent yn ymuno â thîm o Athrawon Ymarfer sy’n gweithio ar draws y Brifysgol i gefnogi datblygiad ein rhaglenni a’n portffolio ymchwil i sicrhau eu bod yn parhau i ymateb i anghenion cyflogwyr a chymdeithas ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.”

Dr Subhamay Ghosh yw’r Arweinydd Clinigol ar gyfer Anestheteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chynrychiolydd y Bwrdd ar Gymdeithas Anesthetyddion Cymru. Cynhaliodd astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar gymwysiadau digidol ar gyfer gofal critigol ar ran Hywel Dda ar y cyd â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), partneriaeth rhwng PCYDDS ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Roedd hefyd yn arweinydd prosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd o’r enw ‘Pre-habilitation in major Colorectal Surgery’ a lansiwyd y llynedd. Ymunodd â Phwyllgor Ymchwil a Datblygu Hywel Dda, gan arwain anestheteg a gofal critigol mewn prosiectau ymchwil newydd, gan gynnwys Metagenomeg a Sepsis, ac mae wedi arwain Llywodraethu Clinigol i gefnogi datblygu a gweithredu strategaeth a systemau Cymru gyfan i fesur a dangos gwelliant a sicrwydd ansawdd parhaus. 

Dywedodd Mr Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Interim gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rwy’n falch iawn bod un o’n cydweithwyr, Dr Subhamay Ghosh, wedi’i benodi’n Athro Ymarfer gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y Brifysgol ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru o bwys mawr i’r bwrdd iechyd. Mae’n rhoi cyfle i ni rannu arbenigedd a gwybodaeth sy’n ein galluogi i gydweithio i ddarparu dysgu a chyfleoedd i’r dyfodol.”

Mae Rhidian Hurle yn Gyfarwyddwr Meddygol gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac mae’n gyfrifol am y meysydd Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch Cleifion, Gweithwyr Proffesiynol Gwybodeg Glinigol a’r Tîm Newid Busnes, a’r tîm Gwybodaeth ac Arloesi Ymchwil. Mae’n gweithredu fel ffynhonnell cyngor arbenigol, gan ddarparu arweinyddiaeth a chymorth proffesiynol ar gyfer gweithgarwch Llywodraethu Gwybodaeth GIG Cymru, gan sicrhau eu bod yn defnyddio llywodraethu gwybodaeth fel galluogwr i rannu gwybodaeth a data iechyd a gofal yn ddiogel. Mae hefyd yn Brif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru (CCIO) ac yn cynghori swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd digidol. Mae Mr Hurle yn parhau ag ymarfer clinigol yn y GIG fel Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol ac mae eisoes yn cefnogi rhaglen y Brifysgol, MSc mewn Sgiliau Digidol ar gyfer Galwedigaethau Iechyd a Gofal

Mae Ifan Evans yn Gyfarwyddwr Strategaeth gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac mae’n gyn Gyfarwyddwr Technoleg, Iechyd Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru.  Mae Mr Evans yn cael ei gydnabod fel awdur Cymru Iachach, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac roedd yn gyfrifol am ei weithredu. Cydnabyddir Cymru Iachach fel strategaeth iechyd a gofal ragorol, a gefnogir ar bob lefel, o’r cabinet i gyflenwi gwasanaeth rheng flaen. Er 2019 mae wedi arwain y Polisi Iechyd a Gofal Digidol yng Nghymru, gan osod cyfeiriad strategol newydd, cryfhau trefniadau cyflawni, a chynyddu buddsoddiad yn sylweddol mewn trawsnewid digidol. Arweiniodd Mr Evans hefyd ymateb iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i Brexit, gan lunio strategaeth arbennig i Gymru, gydag ymgysylltu cryf â gofal cymdeithasol a gwytnwch y gadwyn gyflenwi.

Meddai’r Athro Wendy Dearing: 

“Mae ein partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn gyfle i adeiladu ac ehangu ein hymagwedd o ran ein darpariaeth iechyd a gofal digidol cyfredol ac i’r dyfodol mewn byd cymhleth sy’n newid yn barhaus ar gyfer y sectorau hanfodol hynMae penodi ein Hathrawon Ymarfer yn cryfhau ein partneriaeth ac yn sicrhau ein bod yn meithrin gallu gyda’n gilydd er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Image of Prof Wendy Dearing presenting ceriticiates toDr Subhamay Ghosh, Hywel Dda University Health Board, and Rhidian Hurle and Ifan Evans of Digital Health and Care Wales

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau