Skip page header and navigation

Sicrhaodd Tîm Rygbi Dynion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fuddugoliaeth wefreiddiol yn Nharian Cynhadledd Cynghrair Gorllewinol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gan drechu’r Brifysgol Amaethyddol Frenhinol o drwch blewyn mewn gêm hynod gyffrous 34-33.

Group shot of the rugby team after receiving their medal

Cafodd y llwybr i’r rownd derfynol ei pharatoi, wrth i’r tîm ddod yn fuddugol mewn gêm gyn-derfynol yn erbyn Prifysgol Gorllewin Lloegr, gan osod y llwyfan ar gyfer arddangosfa heriol yn Rowndiau Terfynol Cynhadledd y Gorllewin a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerwysg.

O’r dechrau i’r diwedd, clasur o gêm oedd hon a’r naill dîm a’r llall ar y blaen ar sawl adeg. Gwrthododd y tîm dan arweiniad y capten ysbrydoledig Morgan Thomas ildio, gyda pherfformiadau rhagorol gan y garfan gyfan yn dangos gwytnwch mawr i sicrhau’r fuddugoliaeth. 

Coronodd y fuddugoliaeth dymor llwyddiannus i’r Drindod Dewi Sant, a nodweddir gan ymgyrch gynghrair cymhellol sy’n addo dyrchafiad i Haen 4 ym mhyramid Rygbi Dynion BUCS am y tymor sydd i ddod. Bu’r cefnogwyr yn dyst i ymrwymiad y tîm o wythnos i wythnos, ac mae eu dull o chwarae wedi esblygu drwy gydol y tymor a dangoswyd hyn yn y perfformiad gorau a gadwyd ar gyfer rownd derfynol y Gynhadledd.

Gwelwyd perfformiadau unigol nodedig gan Ben James ac Ethan Williams ymhlith y blaenwyr gyda rhai rhediadau hyrddiol, Will James y cefnwr a oedd yn llinell amddiffyn olaf gadarn a Sam Potter, a reolodd y gêm yn wych yn safle’r maswr gan gadw’r sgorfwrdd i droi gydag arddangosiad bron di-fai o gicio goliau. 

Meddai Gareth Potter, Pennaeth Rygbi PCYDDS: 

“Roeddem wrth ein bodd â’r fuddugoliaeth yn enwedig yng ngoleuni rhai anafiadau i aelodau allweddol yn y cyfnod rhagarweiniol. Mae’n dangos sut mae’r garfan wedi datblygu o ran niferoedd ac ansawdd, sef y nod ar gyfer rygbi’r Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf. Mae gennym ni chwaraewyr hynod dalentog sy’n gweithio’n galed oddi ar y cae i baratoi’n iawn ar gyfer y gemau hyn ac mae hyn wedi dangos gyda thymor rhagorol, gan arwain at y gêm hon. Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau’r garfan ymhellach ar gyfer y tymor nesaf.” 

Ychwanegodd Lee Tregoning Pennaeth yr Academi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant:

“Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm, pwyllgor y clwb, yr hyfforddwyr, y staff cymorth ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r berthynas waith rhwng y Clwb, Undeb y Myfyrwyr a’r Academi wedi bod yn ardderchog ac mae’r canlyniadau ar y cae ac oddi arno wedi bod yn galonogol iawn ar gyfer y dyfodol.”

Os oes gan unrhyw fyfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr ddiddordeb mewn ymuno â’r Clwb Rygbi yn y brifysgol, cysylltwch â Gareth (G.potter@pcydds.ac.uk). Mae’r Clwb Rygbi yn cynnig darpariaeth i ddynion a menywod ar gyfer pob gallu. Byddai’n wych gweld y niferoedd yn tyfu’r tymor nesaf ac yn adeiladu ar lwyddiant y tîm y tymor hwn.

A formal photo of the UWTSD Rugby team

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau