Skip page header and navigation

Mae Oscar McNaughton o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael ei ddewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Lyon 2024, sy’n adnabyddus hefyd fel y ‘gystadleuaeth Olympaidd ar gyfer sgiliau’. 

Oscar is pictured wearing a navy blue WorldSkills top in front of a white background

Bydd Oscar yn cystadlu’n rhan o Dîm y DU yn WorldSkills Lyon 2024, a gynhelir o 10 – 15 Medi.  WorldSkills UK sy’n dewis, yn  mentora ac yn hyfforddi Tîm y DU, mewn partneriaeth â chwmni dysgu mwyaf blaenllaw’r byd, Pearson.

Bydd Tîm y DU yn anelu am anrhydedd ar lwyfan y byd yn Lyon, Ffrainc, oriau’n unig ar ôl i’r fflam Olympaidd gael ei diffodd.  Yn union yr un modd â’u cyd-gystadleuwyr ym maes chwaraeon, mae Tîm y DU wedi bod yn hyfforddi’n drwyadl am y cyfle unwaith mewn oes hwn i gynrychioli’u gwlad yn yr yrfa o’u dewis.

Mae’r DU wedi bod yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth WorldSkills er 1953, a chaiff y digwyddiad ei ddefnyddio gan lywodraethau o bob cwr o’r byd, economegwyr, ac arweinwyr busnes byd-eang yn brawf litmws i fesur pa mor barod y maent i optimeiddio twf economaidd yn y dyfodol.  Yn WorldSkills Lyon 2024, bydd 1,500 o gystadleuwyr o fwy na 65 o wledydd a rhanbarthau’n cystadlu mewn 62 proffesiwn gyda’r nod o gael eu henwi y gorau yn y byd yn y sgil o’u dewis. 

Dechreuodd Oscar weithio i CBM yn PCYDDS yn brentis peiriannydd dylunio.  Gwnaeth gais yng nghystadleuaeth WorldSkills ar gyfer Gweithgynhyrchu Ychwanegion mis Medi diwethaf gan fynd drwodd i rownd derfynol y DU.

Aeth i rownd derfynol y DU ym Manceinion ddau fis yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2023 gan gystadlu yn erbyn y goreuon o bob rhan o’r DU, ac ennill medal arian.Ar ôl y rownd derfynol cafodd wahoddiad i fynd i ddigwyddiad dewis sgwad i gael lle yn sgwad ryngwladol WorldSkills UK.

Meddai Lee Pratt, rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch PCYDDS:“Rydym ni’n falch dros ben o gyflawniadau Oscar wrth gael ei ddewis am le yn Nhîm y DU ar gyfer rownd derfynol WorldSkills International eleni.  Mae meddwl y bydd Oscar bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli’r DU yn erbyn y peirianwyr gorau ym maes gweithgynhyrchu ychwanegion o bob cwr o’r byd yn syfrdanol!! 

“Mae hon yn flwyddyn beilot ar gyfer y gystadleuaeth Gweithgynhyrchu Ychwanegion yn y DU. Rhaid i gystadleuwyr ddefnyddio nifer o sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn rhan o’u prawf yn cynnwys sganio 3D, ôl-beiriannu, efelychiad cyfrifiadurol ac argraffu 3D. 

“Rydym ni’n credu bod gan Oscar beth sydd ei angen i fynd yr holl ffordd gyda Thîm y DU, a byddwn ni’n ei gefnogi bob cam o’i daith!”

Meddai Oscar:    “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy newis ar gyfer tîm rhyngwladol y DU ar gyfer WorldSkills. Mae wedi bod yn daith gyffrous iawn ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli’r DU a’r Brifysgol yn Lyon ym mis Medi.  Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i Lee a gweddill y tîm sydd wedi bod yn ganolog yn fy llwyddiant ac wedi fy nghefnogi o’r rowndiau cenedlaethol tan nawr.  Mae’n amser cyffrous iawn bod yn rhan o fyd ychwanegion. 

Mae PCYDDS mewn sefyllfa berffaith i ddod yn arweinydd nid yn unig ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion, ond yn fwy eang ar gyfer yr ystod o gategorïau yng nghystadlaethau WorldSkills, sy’n gyfleoedd gwych ar gyfer meithrin a rhannu talent yn y nifer mawr o sgiliau y mae PCYDDS yn eu datblygu.  Gobeithio mai fi fydd y cyntaf yn unig o’r cystadleuwyr rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen at weld pwy arall allai gael ei ysbrydoli i’w roi ei hun ymlaen”.

Meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “WorldSkills Lyon 2024 – meddyliwch am y Gemau Olympaidd – lle mai’r wobr yw’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae cyflogwyr y DU yn galw’n daer amdanynt. 

“Bydd cyfranogiad y DU yn ‘y gystadleuaeth Olympaidd ar gyfer sgiliau’ yn darparu cipolwg hollbwysig i sicrhau ein bod yn gallu datblygu ein rhaglenni prentisiaethau a hyfforddiant i’w gwneud yn wir yn rhai sydd o safon fyd-eang. 

Meddai Freya Thomas Monk, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymwysterau a Hyfforddiant Galwedigaethol yn Pearson:  “Mae Pearson yn rhannu llawer o nodau â WorldSkills UK – gan ddathlu’r gorau o addysg alwedigaethol a thechnegol, codi ymwybyddiaeth a bri’r sector, a chefnogi pobl ifanc i osod meincnodau rhagoriaeth yn eu dewis feysydd. 

“Rwy’n gobeithio bod aelodau Tîm y DU yn ymfalchïo yn y ffaith bod eu hymroddiad a’u talent wedi ennill lle haeddiannol iddyn nhw yn y gystadleuaeth arobryn hon. 

Mae’r sgiliau maent wedi’u mireinio, a’r safonau maent wedi gweithio mor galed i’w cyflawni, yn cynrychioli’r gorau sydd gan ein gwlad i’w gynnig.Yma yn Pearson rydym yn eich annog chi yn eich blaen bob cam o’r ffordd.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau