Lle yn rownd derfynol Gwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023 ar gyfer 'Seeing dementia through their eyes'
Cyhoeddwyd bod prosiect cydweithredol a ganiataodd i ymchwilwyr a gwneuthurwyr ffilm yn llythrennol weld y byd drwy lygaid cwpwl o Abertawe a oedd yn byw gyda dementia, wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023.
Roedd ymchwil gan dîm Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi hysbysu cyfres o 10 ffilm newydd gan eHealth Digital Media Ltd yn Abertawe, ar gyfer y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia), a gyrhaeddodd y rhestr fer yng nghategori Ymchwil ac Arloesi’r Gwobrau.
Cafwyd bron iawn 300 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau o bob cwr o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac maent yn cydnabod ac yn dathlu cyfranogiad pobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia a’u hymwneud â gweithgareddau a phrosiectau. Maent hefyd yn dangos effaith y rheini a enwebwyd drwy gyfranogiad ystyrlon pobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia.
Mae ffilmiau eHealth Digital Media yn ymwneud â bywydau a heriau pob dydd pobl sy’n byw gyda dementia ac maent yn canolbwyntio ar gyflwyno cymorth, hyfforddiant, ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Gweithiai tîm ATiC yn agos â Chyfarwyddwr Creadigol y cwmni, Kimberley Littlemore, o Newton yn Abertawe. Roedd rhieni Kimberley, Clive a fu farw’n drist ym mis Tachwedd 2022, a Pauline Jenkins, a hwythau yn eu hwythdegau, ill dau yn byw gyda dementia a nhw oedd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect ymchwil.
Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi meddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac offer arloesi strategol ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil blaengar ar gyfer gwerthuso profiadau defnyddwyr a defnyddioldeb, ac mae wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1.
Mae’r cwmni cyfathrebu digidol eHealth Digital Media yn cynhyrchu ac yn cyflwyno cynnwys i newid ymddygiad megis ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd uchel drwy’i phlatfform PocketMedic sefydledig.
Cymerodd y prosiect ychydig dros flwyddyn i’w gwblhau, a defnyddiai offer ymchwil datblygedig ym meysydd profiadau defnyddwyr ac ymddygiad dynol, megis technoleg i dracio llygaid ac i adnabod mynegiant yr wyneb, wrth greu a gwerthuso’r ffilmiau.
Gosodwyd camerâu o gwmpas cartref Clive a Pauline yn Abertawe i gadw cofnod o’u bywydau o ddydd i ddydd. At hynny, gwisgai’r cwpwl sbectol a fyddai’n tracio’r llygaid wrth iddynt wneud gweithgareddau yn y cartref, er mwyn i’r tîm allu ‘gweld y byd drwy eu llygaid nhw.’
Bu’r deunydd ffilm hwn yn gymorth i’r tîm ganfod a deall unrhyw batrymau a sbardunau dros amser ac i ddewis eiliadau allweddol, y gallai clinigwyr ac academyddion yn y maes eu dadansoddi a’u trafod ymhellach.
Mae’r ffilmiau ar gael ar blatfform PocketMedic eHealth Digital Media, sy’n cyflwyno ffilmiau gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel sy’n cael eu ‘rhagnodi’ gan glinigwyr i gefnogi eu cleifion o ran rheoli eu hiechyd. A chan fod y deunyddiau dysgu ar gael ar sgrin ac nid yn cael eu cyhoeddi nac ar gael mewn print, maent yn hygyrch iawn i ddefnyddwyr.
Mae’r ffilmiau ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim yng Nghymru diolch i gyllid a gafodd eHealth Digital Media gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerdydd, a Chyfarwyddwr ATiC: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith eHealth Digital Media a’i bartneriaeth â chanolfan ymchwil ATiC yn y Drindod Dewi Sant wedi’u cydnabod yng Ngwobrau Arwr Dementia y Gymdeithas Alzheimer. Mae’n atgyfnerthu pwysigrwydd partneriaeth a chydweithio rhwng y Brifysgol a mentrau o ran cyflymu arloesi, sy’n arwain at effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl.”
Meddai Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ATiC ac arweinydd y prosiect: “Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn gydnabyddiaeth gadarnhaol bellach o bwysigrwydd y gwaith cydweithredol hwn gydag eHealth Digital Media, a roddodd bobl wrth wraidd yr ymchwil.
“Yn y lle cyntaf dechreuodd y prosiect hwn fel arbrawf syml a ddeilliodd o’r syniad bod Kimberley yn dymuno ‘gweld dementia drwy lygaid ei rhieni’. Mae wedi ein helpu i ddeall sut mae pobl â dementia yn byw ac i ddeall pa fathau o heriau maent yn eu hwynebu bob dydd.”
Meddai Kimberley Littlemore, Cyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media: “Rydym ni’n falch iawn o’n cydweithrediad gydag ATiC i weld dementia drwy lygaid fy rhieni. Bu’r dechnoleg dracio llygaid yn fodd i ni ddangos a rhannu drwy ffilm mewn ffordd ddynol iawn, beth roedd ymchwilwyr wedi bod yn ei ddisgrifio yn eu papurau ynghylch newidiadau o ran canfyddiad gweledol mewn pobl sy’n byw gyda dementia.
“Dim ond edmygedd sydd gen i i’m rhieni, a ganiataodd i mi rannu eu taith. Mae rhywbeth da yn dod allan o sefyllfa sy’n anhygoel o heriol i ni gyd.”
Cefnogwyd y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) drwy’r rhaglen Cyflymu, cydweithrediad arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru, Prifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesi Clinigol), Prifysgol Abertawe (Canolfan Dechnoleg Gofal Iechyd), ATiC yn y Drindod Dewi Sant, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae rhaglen Cyflymu yn cael ei chyd-gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, a nod y rhaglen yw creu gwerth economaidd hirdymor i Gymru.
Cefnogwyd gwaith eHealth Digital Media hefyd gan Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe, ac arbenigwyr yn y wlad yma a thramor, yn cynnwys Teepa Snow a’i Thîm Dull Cadarnhaol ar gyfer Gofal yn UDA, arbenigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR – Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor), a’r tîm gwych o ofalwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a helpai i ofalu am Clive a Pauline Jenkins.
Cydweithrediad Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) oedd enillydd y wobr Budd i’r Gymdeithas yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd y DU ac Iwerddon ym mis Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Gwobrau’r Gŵn Gwyrdd yn 2004 ac maent yn dathlu’r mentrau cynaliadwyedd eithriadol a gyflawnir gan brifysgolion a cholegau. Roedd y wobr Budd i’r Gymdeithas yn cydnabod ATiC am ei chydweithrediad ymchwil arloesol gydag eHealth Digital Media Ltd, ac am y ffordd mae’r ffilmiau yn hawdd i ddefnyddwyr eu defnyddio gydag ôl troed carbon bach iawn.
Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023 mewn seremoni ar ddydd Gwener 28 Ebrill yn Birmingham.
Ewch i fideo’r prosiect.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)
E-bost: bethan.evans@pcydds.ac.uk