Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr BA Dylunio Graffig a BA Hysbysebu Creadigol gyfle amhrisiadwy i gael eu portffolios creadigol wedi’u hadolygu a’u beirniadu’n fanwl gan yr arbenigwyr diwydiant Rachael Wheatley a Ben Aaron o Waters Creative.

Graphic Design student discusses her work with Rachael and Ben from Waters Creative

Roedd galw mawr am y sesiynau, a oedd yn cynnig deg slot hanner awr, gyda’r holl slotiau oedd ar gael yn cael eu harchebu o fewn y dyddiau cyntaf o gyhoeddi. Mae’r diddordeb yn arwydd o awydd myfyrwyr i fireinio eu portffolios a gwella eu gallu i gystadlu yn y farchnad swyddi.

Mynegodd Bethan Morris, sy’n fyfyriwr BA Dylunio Graffeg yn Y Drindod Dewi Sant, ei diolch am y cyfle, gan ddweud, “Rhoddodd y sesiwn adolygu portffolio adborth amhrisiadwy y gwn y bydd yn fy helpu i fireinio fy ngwaith a sefyll allan mewn marchnad swyddi orlawn. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth ddilyn fy nodau gyrfa ar ôl derbyn arweiniad gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.”

Mae’r sesiynau adolygu portffolio hyn yn tanlinellu ymrwymiad y brifysgol i ddarparu profiadau ymarferol sy’n berthnasol i’r diwydiant i’w myfyrwyr, gan gadarnhau ei henw da ymhellach fel sefydliad blaenllaw yn y maes hwn. Rhannodd y darlithydd Ian Simmons ei feddyliau, gan ddweud, “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y cysylltiadau agos yr ydym wedi’u meithrin â phartneriaid yn y diwydiant, ac mae digwyddiadau fel y rhain yn enghraifft o fanteision cydweithio o’r fath. Ychwanegodd arbenigedd Rachael a Ben werth aruthrol at brofiad dysgu ein myfyrwyr gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda i lywio tirwedd gystadleuol dylunio graffeg a hysbysebu creadigol.

Mae cysylltiadau cryf â diwydiant yn hanfodol i ni yn Y Drindod Dewi Sant ac mae’r sefydliad yn parhau i atgyfnerthu’r cysylltiadau hyn er budd ei fyfyrwyr. Oherwydd y galw sylweddol am y sesiynau hyn, byddwn yn edrych ar drefnu sesiynau ychwanegol yn fuan iawn i ddarparu ar gyfer myfyrwyr a gollodd y cyfle hwn”.

Ychwanegodd Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr Sefydlu Waters Creative, “Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld lefel y dalent ac ymroddiad a ddangoswyd gan fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Roedd cynnig arweiniad ar eu portffolios yn brofiad gwerth chweil, a chredaf y bydd y sesiynau hyn yn sicr yn cryfhau eu rhagolygon yn y diwydiant.”

I gael gwybod mwy am gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth PCYDDS, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/pynciau/celf-dylunio-ffotograffiaeth 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon