Skip page header and navigation

Cafodd Grwpiau Ymgysylltu Teulu ac Oedolion sy’n gweithio yn adran Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) flas ar fywyd ar y campws mewn digwyddiad ar 19 Ionawr.

Enghraifft liwgar o waith gan yr Athro Williams, llais blaenllaw ym myd Celf Brydeinig gyfoes y mae ei baentiadau amrwd a phwerus yn ymestyn ar draws cynfasau helaeth ac yn cyfeirio at bortreadau o’r Dadeni, mynegiantaeth yr 20fed ganrif, brut celf, celf pop, a’r mudiad celf ffeministaidd.
Mae arddangosfa sy’n cynrychioli’r artist gweledol o fri, yr Athro Sue Williams, cyfarwyddwr cwrs Celfyddyd Gain: Safle Stiwdio a Chyd-destun Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn agor y penwythnos hwn yn un o ofodau artistiaid annibynnol pwysicaf Caerdydd, Bay Art.

Fel rhan o’r ymweliad, cafwyd Dosbarth Meistr mewn Eiriolaeth / Cymdeithaseg, taith o amgylch y campws a chinio, cyn ail Ddosbarth Meistr mewn Celf, lle cafodd y grŵp gyfle i fynegi eu hunain trwy ddylunio collage.

Mae PCYDDS wrthi’n cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad ac yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir ac amgylchiad i godi eu dyheadau a chyflawni eu potensial.

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sicrhau bod pawb sydd â’r penderfyniad a’r dyhead i gael mynediad at addysg uwch yn gallu gwneud hynny ac mae’n darparu amryw opsiynau i oedolion sydd am ddychwelyd i ddysgu, gan gynnwys sesiynau blasu, dosbarthiadau meistr, cyrsiau byr, a chyrsiau gradd llawn.

Dywedodd Donna Williams, un o’r Swyddogion Ehangu Mynediad yn PCYDDS: “Rydym yn gweithio’n agos ag unigolion yn ein cymunedau, fel Aberdaugleddau a Thrimsaran, i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u cryfderau eu hunain ac i weithio ar eu llesiant a’u hunan-werth.

“Mae hyn yn datblygu cryfder yn y gymdeithas trwy alluogi unigolion i adnabod eu sgiliau trwy’r gweithdai a’r cyrsiau a ddarperir gennym. Mae hefyd yn magu hyder a gwytnwch yr unigolion i’w galluogi i gael mynediad at ein cyrsiau ‘cam ar y ffordd’ i oedolion sy’n ystyried dychwelyd i ddysgu. Pleser oedd dod i adnabod yr unigolion y bûm yn ymwneud â nhw’n wythnosol a gweld eu hyder yn ffynnu. Allwn ni ddim ag aros i gynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn ar y campws eto.”

Meddai Ken Dicks, Rheolwr y Rhaglen Eiriolaeth a Chymdeithaseg yn PCYDDS, a fu’n rhan o’r Digwyddiad ar y Campws yng nghwmni dau o’i fyfyrwyr, Andrea Burson a Charlene Sadd: “Fe wnaethom fwynhau’n arw rhedeg y gweithdy Cyflwyniad i Gymdeithaseg ac Eiriolaeth ar gyfer grwpiau o Aberdaugleddau a Thrimsaran. Cafwyd sgyrsiau gwych yn ystod yr ymarfer Proffilio Cymuned ac erbyn diwedd y sesiwn roedd pawb wedi rhannu eu barn. Gobeithio ein bod wedi rhoi rhai syniadau i’r dyfodol i’r grwpiau, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau